'Neidr' yn rhwystro gwaith adeiladu
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i adeiladwyr roi'r gorau i'r gwaith o godi maes chwarae mewn ysgol gynradd Gymraeg oherwydd presenoldeb madfallod.
Mae'r neidr ddefaid wedi ei gwarchod gan reolau cynllunio ac roedd rhaid dod o hyd i gartref newydd i'r creaduriaid cyn caniatáu i'r gwaith adeiladu barhau.
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod nawr yn fodlon fod y creaduriaid wedi gadael y safle a bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn Ysgol Parc Y Tywyn, Porth Tywyn.
Roedd y gwaith sy'n werth £56,000 i fod i ddechrau yn yr haf.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn pryderu y byddai'n rhaid atal y gwaith tan fis Mawrth 2012.
"Mae'n rhaid i'r ardal dan sylw fod yn glir o'r madfallod am bum niwrnod cyn bod adeiladwyr yn gallu mynd ar y safle," meddai llefarydd.
Roedd naturiaethwyr wedi trio hudo'r anifeiliaid i lecyn cyfagos, ac yna gosod rhwystrau rhag iddyn nhw ddychwelyd.
"Ond mae'n agosáu at yr adeg pryd mae'r creaduriaid yn mynd i gysgu dros y gaeaf, ac wedyn byddai wedi bod yn rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith tan y flwyddyn nesaf."
Dywedodd y Cynghorydd Gwynne Wooldrige, sy'n aelod o fwrdd gweithredol y cyngor, y bydd y gwaith nawr yn mynd rhagddo.
"Bydd y maes chwarae newydd yn rhoi mwy o le i'r plant a bydd yn adnodd gwych i'r ysgol."