Pryder am ddyfodol clwb rygbi Tycroes

  • Cyhoeddwyd
Alexandra BurkeFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywed llefarydd ar ran Alexandra Burke na chafodd hi gais i'r digwyddiad yn Nhycroes

Wrth i Glwb Rygbi Tycroes yn Sir Gaerfyrddin ddathlu ei ganmlwyddiant mae 'na bryder am ei dyfodol.

Mae aelodau o bwyllgor y clwb wedi dweud wrth raglen Y Post Cynta BBC Radio Cymru eu bod nhw'n poeni y gallai drysau'r clwb gau am byth.

Mae'r clwb mewn trafferthion ariannol ar ôl talu swm o arian sylweddol i asiant oedd yn honni ei fod yn gallu denu un o sêr cerddoriaeth bop y byd i Dycroes i ganu.

Doedd yr artist, Alexandra Burke, ddim yn gwybod dim am hyn.

Wedi iddi ennill cystadleuaeth X Factor yn 2008 mae hi wedi mynd ymlaen i gael llwyddiant ysgubol.

Yn gynharach eleni roedd y clwb rygbi wrth eu boddau oherwydd eu bod nhw'n credu bod y gantores wedi cytuno i ganu yn ystod gŵyl gerddoriaeth flynyddol y clwb - Party on The Pitch.

"Trefnodd rhywun asiant i ni yn Llundain a fyddai'n gallu sicrhau bod Alexandra Burke yn dod yma," meddai Clive Hanham, un o ymddiriedolwr y clwb.

Blaendal

"Fe wnaethon ni gytundeb gyda Paul Johnson.

"Er mwyn sicrhau cael y gantores yma, roedd e am gael blaendâl gennym o £5,000.

"Yn anffodus fe aeth pethe o chwith a welon ni byth Alexandra Burke na'r £5,000 gan Paul Johnson."

Er bod y chwaraewyr yn dal i ymarfer ar gyfer eu gemau nesaf mae 'na bryder na fydd 'na glwb ar ôl colli £5,000.

"I ddweud y gwir rydym wedi dod yn agos at fod yn fethdalwyr," meddai ysgrifennydd ariannol y clwb Ian Thomas.

"Unrhyw arian fyddwn ni'n ei wneud rydym yn ei fuddsoddi yn ôl yn y rygbi."

Dywedodd bod 'na wyth tîm yno, o dan 8 oed i'r prif dîm, a'r gymuned gyfan yn eu cefnogi.

"I wneud tipyn bach mwy o arian, rydym wedi bod yn cynnal Party on the Pitch.

"Yn ffodus, mae 'na arian wrth gefn gan iddo fod yn ddigwyddiad trychinebus eleni.

"Rwy'n poeni am ddyfodol y clwb ar ôl be sydd wedi digwydd eleni."

Cwmni arall

Cwmni Hillside Productions ddeliodd gyda chais Clwb Tycroes i ddenu Alexandra Burke.

Mewn datganiad fe ddywedodd Paul Johnson wrth BBC Cymru ei fod wedi gadael y cwmni bellach, ond nad oedd e na'r cwmni wedi derbyn ceiniog gan y clwb.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clwb yn edrych ymlaen at y 100 mlynedd nesaf

Dywedodd ei fod wedi is gontractio cwmni arall i ddelio ag arian Alexandra Burke ac mai nhw dderbyniodd arian y clwb yn y pendraw.

Mae hi'n ddirgelwch ar hyn o bryd felly gan bwy mae arian y clwb rygbi.

Ond er gwaethaf trafferthion yr haf mae Cadeirydd Clwb Tycroes, Meirion Powell, yn dweud eu bod nhw'n trio'i gorau i edrych ymlaen.

"Mae 'na dipyn o ddigalondid yn y clwb am yr hyn ddigwyddodd.

"Ond dydyn ni ddim wedi digalonni yn llwyr.

"Mae'r ysbryd yn dechrau codi ac mae pwyllgor Party on the Pitch yn dechrau paratoi ar gyfer y digwyddiad y flwyddyn nesaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Alexandra Burke nad oedd hi'n gwybod dim am gais Clwb Rygbi Tycroes.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gais wedi'i roi i'w thîm rheoli swyddogol.

Fe ddywedodd hefyd nad oedd hi na'i thîm wedi derbyn unrhyw arian.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa a'u bod nhw'n cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.