Rhys Priestland yn debyg o gadw'i le yn nhîm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhys Priestland wedi cael clod am ei berfformiadau yng Nghwpan y Byd

Mae BBC Cymru ar ddeall y bydd Rhys Priestland yn cadw'i le fel maswr Cymru i wynebu Iwerddon yn rownd wyth olaf Cwpan Y Byd ddydd Sadwrn.

Mae'r chwaraewr 24 oed wedi dechrau tair o bedair gêm Cymru yn Seland Newydd hyd yma.

Gyda James Hook wedi gwella o anaf i'w ysgwydd ac yn gallu bod yn eilydd fel maswr, fe allai Stephen Jones gael ei adael allan o'r garfan yn gyfan gwbl.

Mae Shane Williams (morddwyd) a Dan Lydiate (ffêr) yn holliach ar ôl methu'r fuddugoliaeth dros Fiji.

Mae'r capten Sam Warburton a'r prop Gethin Jenkins hefyd wedi gwella o fan anafiadau a gawson nhw yn y gêm honno.

Oherwydd anaf i'w goes, methodd Stephen Jones y ddwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth gan roi cyfle i Priestland, ac mae yntau wedi manteisio gan ennill clod am ei berfformiadau.

Gyda'r ddau ar gael i wynebu Fiji, Priestland gafodd ei ddewis i ddechrau'r gêm gyda Jones yn dod ymlaen fel eilydd ar ôl awr o chwarae i ennill cap rhif 102.

Er i Ryan Jones blesio yn absenoldeb Lydiate, mae disgwyl i Warren Gatland fynd yn ôl i'w ddewis cyntaf fel rheng ôl, sef Lydiate, Warburton a Faletau.

Cafodd James Hook anaf yn erbyn Samoa, ond mae'r chwaraewr amryddawn wedi bod yn ymarfer gyda'r garfan yr wythnos hon.

Ar ddechrau'r gystadleuaeth, Hook oedd yn dewis cyntaf fel cefnwr, ond mae perfformiadau Leigh Halfpenny a Lee Byrne wedi rhoi cur pen i Gatland.

Mae'n ymddangos y bydd George North yn cadw'i le ar un asgell gyda Williams yn barod i ddychwelyd ar ôl gorffwys.

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi'r tîm yn ystod mân fore Iau.

CARFAN CYMRU YN LLAWN

Blaenwyr: (16)

Ryan Bevington, Adam Jones, Paul James, Huw Bennett, Alun Wyn Jones, Ryan Jones (Gweilch), Gethin Jenkins, Sam Warburton, Bradley Davies (Gleision), Craig Mitchell (Caerwysg), Lloyd Burns, Luke Charteris, Danny Lydiate, Toby Faletau (Dreigiau), Ken Owens (Scarlets), Andy Powell (Sale Sharks).

Olwyr: (14)

Lee Byrne (Clermont Auvergne), Aled Brew (Dreigiau), Leigh Halfpenny, Jamie Roberts, Lloyd Williams (Gleision), George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Stephen Jones, Rhys Priestland, Tavis Knoyle (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), James Hook (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne).