Mwy o alw am gymorth y banciau bwyd
- Cyhoeddwyd

Mae 100% o gynnydd wedi bod yn y galw am fanc bwyd Caerdydd.
Dechreuodd Banc Bwyd cyntaf Cymru yng Nglyn Ebwy yn 2008 ac erbyn heddiw mae 15 o fanciau bwyd yng Nghymru, gydag un arall ar fin agor yn Sir y Fflint.
Ar draws Cymru a Lloegr mae 133 o fanciau bwyd.
Pan sefydlwyd banc bwyd Glyn Ebwy, roedd yn un o 26 yng Nghymru a Lloegr.
Yng Nghaerdydd mae 'na bedwar banc bwyd, a'r galw'n cynyddu.
Mae'r ganolfan ddosbarthu wedi tyfu; o fod yn storws fach mewn uned yn Nhrelái, mae wedi ymestyn i'r uned drws nesaf.
Er bod honno'n chwarter gwag ar hyn o bryd, mae disgwyl y bydd hi'n llawn erbyn y Nadolig.
I bwy mae'r bwyd?
"Mae llawer o bobl yn dod... oherwydd does dim arian gyda nhw i fynd i'r archfarchnad," eglura Adrian Curtis, sefydlydd Banc Bwyd Glyn Ebwy.
Mae'n gweithio i Ymddiriedolaeth Trussel, y sefydliad sydd tu ôl i'r syniad o fanc bwyd.
"Mae gwahanol bethe yn achosi'r argyfwng - trais yn y cartref, toriad mewn budd-dâl, bil annisgwyl, ac weithiau does dim arian yn eu cyfri banc i fynd i'r archfarchnad i brynu bwyd.
"Rydyn ni'n eu helpu nhw trwy roi gwerth tri diwrnod o fwyd iddyn nhw."
Bydd y teuluoedd a'r unigolion mewn angen yn cael taleb i gasglu'r bwyd gan weithwyr gofal rheng flaen - fel gweithwyr cymdeithasol, meddygon, ymwelwyr iechyd neu elusennau.
Pwy sy'n rhoi?
Unigolion sy'n rhoi'r bwyd - boed trwy gyfrannu i gasgliad mewn ysgol, busnes, eglwys neu wrth gyfrannu eitemau adeg casgliadau mewn archfarchnadoedd.
Ar hyn o bryd, mae'r storfeydd yn llenwi'n gyflym wrth i ysgolion ac eglwysi gynnal gwasanaethau diolchgarwch, a chasglu cyfraniadau cynhaeaf.
Rhaid wrth ddosbarthwyr i drefnu'r bwyd ac mae'r Banc Bwyd yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda'r gwaith hwnnw.
Mae Aled Williams wedi bod yn dod â phlant o ysgol arbennig Woodlands yng Nghaerdydd i becynnu'r bwyd bob wythnos ers blwyddyn.
"Mae'n dda beth maen nhw'n trio gwneud, rhoi bwyd allan i bobol sydd ei angen e, mae'n bwysig," meddai.
"Mae'n neis ein bod ni'n gallu cyfrannu a helpu pobl sydd angen yr help.
"Yn y misoedd diwethaf maen nhw wedi cael drws nesaf hefyd felly maen nhw wedi dyblu mewn ffordd yn y flwyddyn ddiwethaf a gobeithio wnawn nhw ehangu mwy."
Straeon perthnasol
- 22 Ionawr 2011
- 13 Gorffennaf 2011
- 8 Mawrth 2011