Un o sêr y Peep Show yn dysgu'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Isy Suttie
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Isy Suttie ganu ei chân yn Gymraeg yng Ngŵyl Caeredin eleni

Mae comediwraig sy'n wyneb cyfarwydd iawn ar raglen y Peep Show ar Channel 4 yn troi ei llaw at berfformio yn Gymraeg.

Mae Isy Suttie, 33 oed, yn fwy cyfarwydd fel Dobby yn y gyfres ac mae'n hanu o Matlock yn Sir Derby.

Ond wedi cychwyn perthynas gyda'r comedïwr o Gymru, Elis James, bron i ddwy flynedd yn ôl mae hi wedi treulio tipyn o amser yng Nghymru.

Erbyn hyn, mae hi wedi penderfynu dysgu'r iaith ac yn cynnwys y profiad o ddysgu yn ei pherfformiadau stand-up.

Yn ei pherfformiad diweddar yng Ngŵyl Caeredin fe wnaeth hi gyflwyno cân yn Gymraeg ac mae'n bwriadu gwneud yr un peth mewn gig yn Theatr Bloomsbury yn Llundain yn fuan iawn.

Dysgu yn Llundain

Ar daflen y digwyddiad mae'n dweud bod 'na "dri munud yn Gymraeg", rhywbeth sy'n hwb i ddenu'r Cymry i'r perfformiad yn ôl yr actores amryddawn.

"Mae Elis yn dod o Gaerfyrddin a dwi wedi treulio lot o amser yng Nghymru yn ddiweddar," eglurodd.

"Roeddwn i wedi laru ar bawb yn siarad Cymraeg yn y tŷ a ddim yn gallu ymuno efo nhw, felly wnes i benderfynu dysgu'r iaith."

Mae hi wedi cofrestru ar gyfer gwersi yn Llundain, lle mae hi ran fwyaf o'r flwyddyn.

"Mae'r rhan fwyaf o'r rhai ar y cwrs dros 50 oed," meddai.

"Pobl fel fi sydd efo amser rhydd yn ystod y dydd.

"Mae un neu ddau wedi eu geni yng Nghymru tra bod eraill efo rhieni o Gymru ac a diddordeb yn hanes eu teulu."

Dywedodd ei bod yn dechrau sylweddoli bod 'na fwy i'r iaith na chymalau syml fel shwmae a nos da.

Cefngoaeth

"Y treigliadau yw'r peth anodda'.

"Mae Elis a fi yn siarad Cymraeg am ryw 10 munud bob dydd gyda'n gilydd a dwi'n falch bo' gen i rywun i ymarfer efo.

"Dwi'n gwylio Pobol y Cwm er mwyn clywed yr iaith.

"Mae Elis yn meddwl fy mod yn gwneud yn dda ac mae'n gefnogol iawn."

Mae hi'n gobeithio gwneud rhyw bum munud o stand-up yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth y flwyddyn nesaf.

Yno eleni, gydag Elis a'r comedïwr Tudur Owen, y soniodd y byddai'n hoffi rhoi cynnig arni.

"Efallai mod i wedi cael gwydryn o seidr, ond fe fydd yn her ac yn un yr hoffen ei gwneud," ychwanegodd.

Hefyd gan y BBC