Pedwar newid i wynebu Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhys Priestland wedi cael clod am ei berfformiadau yng Nghwpan y Byd

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud pedwar dewis i dîm Cymru fydd yn wynebu Iwerddon yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ddydd Sadwrn.

Yn ôl y disgwyl mae Rhys Priestland yn cadw'i le fel maswr, ac mae Shane Williams a Dan Lydiate yn dychwelyd i'r tîm wedi anafiadau.

Bydd Alun Wyn Jones yn ôl yn yr ail reng ar ôl cael gorffwys o'r fuddugoliaeth yn erbyn Fiji, ac mae Jonathan Davies wedi ei ddewis fel canolwr yn lle Scott Williams.

Yn yr olwyr mae George North yn symud o'r asgell chwith i'r dde gyda Shane Williams ar yr asgell arall.

Leigh Halfpenny fydd yn dechrau yn safle'r cefnwr yn lle Lee Byrne gyda James Hook yn dechrau ar y fainc fel eilydd amryddawn.

Does dim lle yn y 22 i Byrne nac i Stephen Jones, wrth i Scott Williams, Ryan Jones a Bradley Davies ddechrau ar y fainc yn ogystal.

Mae wyth o'r 22 gafodd eu dewis gan Gatland yn 23 oed neu'n iau sy'n cadarnhau dylanwad y genhedlaeth newydd ar y gystadleuaeth.

Un arall o'r ieuenctid, Lloyd Williams, fydd ar y fainc fel mewnwr yn hytrach na Tavis Knoyle.

Dywedodd Gatland: "Roedd hwn yn ddewis anodd i ni ac yn un o'r cyfarfodydd dewis hiraf i ni gael erioed wrth fynd drwy bob dewis posib i ni.

"Mae'n sefyllfa braf i fod ynddo pan ydych yn straffaglu i ganfod lle i chwaraewyr yn y garfan a'r 15 cyntaf yn hytrach na gorfod meddwl pwy sydd ar gael i lenwi'r tîm fel sydd wedi digwydd ar adegau.

"Dyma rownd wyth olaf Cwpan y Byd ac roedd gennym benderfyniadau anodd i'w gwneud gyda Dan, Shane a James yn dychwelyd o anafiadau a'r tîm wedi gwneud mor dda yn eu habsenoldeb.

"Ond dyma'r tîm sydd wedi ei ddewis, ac fel 22 rydym yn credu mai dyma'r tîm sy'n rhoi'r gobaith gorau i ni o ennill y gêm yn erbyn Iwerddon - tîm wnaeth ennill eu grŵp ond hefyd a gurodd y Wallabies ar y ffordd i wneud hynny."

Cymru v. Iwerddon - Dydd Sadwrn, Hydref 8, 6:00am

15. Leigh Halfpenny (Gleision)

14. George North (Scarlets)

13. Jonathan Davies (Scarlets)

12. Jamie Roberts (Gleision)

11. Shane Williams (Gweilch)

10. Rhys Priestland (Scarlets)

9. Mike Phillips (Bayonne)

1. Gethin Jenkins (Gleision)

2. Huw Bennett (Gweilch)

3. Adam Jones (Gweilch)

4. Luke Charteris (Dreigiau)

5. Alun Wyn Jones (Gweilch)

6. Dan Lydiate (Dreigiau)

7. Sam Warburton (Gleision, Capten)

8. Toby Faletau (Dreigiau)

Eilyddion :-

Lloyd Burns (Dreigiau), Paul James, Ryan Jones (Gweilch), Bradley Davies, Lloyd Williams (Gleision), James Hook (Perpignan), Scott Williams (Scarlets).