Un o'r ysgolion dwyieithog cynta yn dathlu 50 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae un o'r ysgolion uwchradd dwyieithog cyntaf yng Nghymru wedi agor ei drysau i gyn-ddisgyblion a chyn-athrawon wrth ddathlu hanner can mlynedd sefydlu'r ysgol.
Cafodd Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug ei sefydlu ym 1961 ac mae'r ysgol yn cynnal nifer o ddathliadau i nodi'r achlysur.
Roedd cyfarfod dathlu yng Nghanolfan Chwaraeon y Campws am 2pm ddydd Sadwrn gyda channoedd yn bresennol.
Yn ôl pennaeth cynorthwyol yr ysgol, Edwin Jones, roedd hwn yn un o lu o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal dros y flwyddyn.
"Ymhen mis fe fydd disgyblion yn llwyfannu'r perfformiad cyntaf yn y Gymraeg o'r sioe gerdd We Will Rock You, sef Rociwn Ni Chi.
"Ac fe fydd cyngherddau'r Nadolig yn rhan o ddathliadau'r ysgol hefyd."
Erbyn hyn mae tua 550 o ddisgyblion yn unig ysgol uwchradd ddwyieithog Sir y Fflint.
Ond hanner can mlynedd yn ôl dim ond 109 o ddisgyblion oedd yn yr ysgol oedd ar safle'r hen Ysgol Glanrafon yn y dref.
Cafodd yr ysgol ei chreu gan hen Awdurdod Addysg y Fflint mewn ymdrech i atal y gostyngiad yn nifer siaradwyr Cymraeg yr ardal.
Prifathro cynta'r ysgol oedd y diweddar Elwyn Evans ac fe'i dilynwyd gan Aled Lloyd Davies.
'Profiadau'
Mae'r brifathrawes bresennol, Bronwen Hughes, yn un o gyn-ddisgyblion yr ysgol sydd hefyd yn cynnwys yr actorion Rhys Ifans a Rhodri Meilir, y barnwr a'r sylwebydd Nic Parry, a'r darlledwr Gareth Glyn.
Un o gyn-ddisgyblion eraill yr ysgol oedd y pennaeth cyn Mrs Hughes, Huw Alun Roberts.
Ac mae'r ysgol wedi cael dau bennaeth arall, Huw Lewis a J Philip Davies.
Roedd y pedwar cyn-bennaeth yn y dathliad ddydd Sadwrn.
Mae dalgylch yr ysgol yn estyn o Ddyffryn Clwyd hyd Lannau Dyfrdwy.
Cafodd yr ysgol bresennol ei hadeiladu ym 1963 cyn dechrau rhannu cyfleusterau megis canolfan hamdden a theatr gydag Ysgol Alun yn 1974.
Straeon perthnasol
- 6 Awst 2010
- 3 Mawrth 2010