Cameron yn beirniadu streic
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi beirniadu streicio yn y sector gyhoeddus.
Roedd streic UCAC dros bensiynau wedi effeithio ar fwy na 300 o ysgolion yng Nghymru ddydd Mercher.
Fe ddywedodd yr undeb y gellid osgoi gweithredu pellach pa bai'r llywodrateh yn fodlon trafod ymhellach.
Dywedodd Mr Cameron fod tegwch go iawn yn ymwneud nid yn unig â'r hyn y mae'r wladwriaeth yn ei wario ond y cyslltiad rhwng yr hyn mae pobl yn ei roi i mewn a'r hyn y maen nhw'n ei gael.
Fe fydd Cyngres yr Undebau Llafur - y TUC - yn cynnal diwrnod o weithredu ar Dachwedd 30 pan y gallai miliynau o weithwyr streicio yn erbyn cynlluniau dadleuol y llywodraeth i ddiwygio pensiynau'r sector gyhoeddus.
Yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion, dywedodd Mr Cameron: "Dwi'n dweud hyn wrth yr undebau sy'n bwriadu streicio dros bensiynau'r sector gyhoeddus - mae gennych bob hawl i streicio, ond mae ein poblogaeth yn heneiddio.
"Nid yw ein sustem bensiynau yn fforddiadwy.
"Yr unig ffordd i gynnig sustem bensiynu deg a fforddiadwy i weithwyr yn y sector gyhoeddus a rhoi chwarae teg i'r trethdalwr yw gofyn i weithwyr cyhoeddus weithio am ychydig hirach a chyfrannu ychydig yn fwy. Mae hynny'n deg.
'Parodrwydd i drafod'
"Beth sydd ddim yn deg yw mynd ar streic sy'n niweidio'r union bobl sy'n talu am eich pensiynau chi."
Dywedodd undeb UCAC eu bod wedi gweithredu er mwyn dangos eu dicter at gynlluniau'r llywodraeth a fyddai'n gadael eu haelodau yn talu mwy ac yn gweithio am fwy o amser.
Dywedodd yr ysgrifennydd, Elaine Edwards: "Rydym yn gobeithio yn ddiffuant fod modd osgoi gweithredu pellach, ond mae hynny yn nwylo'r llywodraeth nawr.
"Rhaid iddyn nhw gymryd sylw o'r neges sy'n cael ei ddatgan yn glir gan y proffesiwn, a rhaid iddyn nhw ddod at y bwrdd trafod gyda pharodrwydd i drafod."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth San Steffan: "Rydym wedi ymrwymo i drafodaethau diffuant gyda'r undebau - mae yna lawer i drafod ac mae cynigion go iawn ar y bwrdd i'w trafod.
"Mae trafodaethau yn ganolog wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer, ac mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r undebau er mwyn cyflawni'r diwygiadau angenrheidiol."
Straeon perthnasol
- 5 Hydref 2011
- 13 Medi 2011