Cau trac beicio: Llosgi bwriadol?
- Cyhoeddwyd

Mae'n debyg y bydd rhaid i drac beicio BMX gau am byth yn dilyn nifer danau.
Mae'r trac ym Mhenycae ger Wrecsam wedi costio £18,000 i'w gwblhau ac wedi'i ariannu gan y cyngor cymuned lleol a grantiau eraill.
Ond nid oedd y cyfarpar wedi ei yswirio ac nid yw'r cyngor cymuned yn gallu fforddio talu am gyfarpar newydd.
Dywedodd Susan Hallard, clerc cyngor cymuned Penycae, fod y trac wedi costio £11,000 a bod y cyngor wedi talu £7,000 am arolwg o'r safle oedd yn hen r hen domen sbwriel.
Diffyg cyllid
"Mae hyn yn ofnadwy. Pwy bynnag sydd wedi gwneud hyn, maen nhw wedi ei wneud o'n fwriadol a fesul tipyn.
"Cafodd y safle ei adael i'r cyngor er budd y gymuned ac fe gysyllton ni â'r ysgolion lleol i ofyn am syniadau ynglŷn â'i dyfodol.
"Roedd y bobl ifanc am weld trac BMX yno.
"Mae'r heddlu a diffoddwyr tân wedi bod yma o leia' pum tro ac yn fy marn i mae hyn yn achos o losgi bwriadol."
Er bod y safle wedi ei yswirio ni chafodd y cyfarpar ei yswirio oherwydd diffyg cyllid.
Dywedodd Ms Hallard: "Ni fyddan ni'n gallu cyfarpar newydd, ac felly bydd yn rhaid diogelu'r safle ond ei adael fel y mae ar hyn o bryd."