Dathlu 60 o ryfeddodau Eryri

  • Cyhoeddwyd
Dros Lyn Padarn i fynyddoedd EryriFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ar Hydref 18, 1951

Fe fydd cerddi a straeon am Wylliaid Cochion Mawddwy a gwyniaid Llyn Tegid yn cael eu hysgrifennu y mis hwn.

Wrth ddathlu eu pen-blwydd yn 60 oed, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwahodd 60 o feirdd a llenorion i ysgrifennu am fannau hanesyddol, pobl enwog a nodweddion hynod.

Bydd rhai o'r beirdd yn ymgynnull yng Nghaffi Croesor, Gwynedd, ar Hydref 18 i ddathlu'r pen-blwydd.

Y cyhoedd ddewisodd y tirweddau, adeiladau ac unigolion dros yr haf.

Mae Hedd Wyn a'i gartref, yr Ysgwrn, yn cynrychioli treftadaeth lenyddol y parc tra bod Tywysogion Gwynedd a Gwylliaid Cochion Mawddwy yn bwysig yn hanesyddol.

Fe gyfeiriodd y cyhoedd at fannau lle mae gweithgareddau awyr agored ac ardaloedd diwydiannol fel cloddio am blwm, aur a haearn yn Y Rhinogydd, diwydiant gwlân ardal Afon Fawddach a chymunedau y chwareli.

'Cyfle gwych'

Eisoes mae Jan Davis, ffotograffydd o Ddeiniolen, wedi bod yn casglu delweddau o bobl a thirweddau.

"Mae prosiect Rhyfeddodau Eryri yn gyfle gwych i ddathlu'r amrywiaeth eang oddi fewn y parc cenedlaethol," meddai Naomi Jones, Swyddog Bwrlwm Eryri.

"Rydym wedi cael ymateb arbennig gan y cyhoedd ac mae'r 60 rhyfeddod terfynol yn drawsdoriad gwych o'r arlwy sydd yma yn Eryri.

"O fynyddoedd Eryri i'w threftadaeth ddiwylliannol, mae pob un o'r rhyfeddodau yn rhan annatod o'r parc cenedlaethol.

"Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd y llenorion a'r ffotograffydd yn dehongli'r rhyfeddodau."

Parc Cenedlaethol Eryri oedd y trydydd parc o'r fath i gael ei sefydlu er mwyn gwarchod natur a threftadaeth Prydain. Mae'n 827 o filltiroedd sgwâr.

Fe noddir y prosiect gan Lenyddiaeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol