Sgwter symudedd yn anafu plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am yrrwr sgwter symudedd oedd mewn gwrthdrawiad â phlentyn tair blwydd oed ddydd Iau.
Torrodd y bachgen ei goes yn dilyn y gwrthdrawiad ar bafin yn Y Rhyl.
Roedd y bachgen gyda'i fam ar y pryd ond er i'r gyrrwr stopio am enaid ni ddywedodd wrth y fam pwy oedd e cyn teithio ymaith.
Dywed yr heddlu nad oedd y dyn yn sylweddoli fod y bachgen wedi torri ei goes.
Ychwanegodd yr heddlu fod y dyn yn ei 60au, maint canolig neu fawr gyda gwyllt byr sydd o bosib yn lliw oren.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol