Cwmni Gwyliau Seren Arian yn nwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Seren ArianFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae 12 o bobl yn gweithio i Seren Arian

Mae un o gwmnïau gwyliau mwyaf adnabyddus y gogledd wedi'i roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae Cwmni Gwyliau Seren Arian o Gaernarfon yn rhoi'r bai ar yr hinsawdd economaidd a'r cynnydd mewn prisiau tanwydd.

Maen nhw'n dweud y bydd pobl sy' wedi trefnu gwyliau yn cael eu harian yn ôl.

Am dros 90 mlynedd bu'r bysiau'n bresenoldeb amlwg ar ffyrdd Gwynedd a thu hwnt wrth iddyn nhw gludo pobl yn eu miloedd ar wyliau ym Mhrydain a thramor.

Dywed y cwmni fod tua 1,500 o bobl oedd wedi prynu gwyliau wedi diodde' oherwydd y newyddion - roedd gan y cwmni 890 o archebion.

Mae'r cwmni yn cludo 12,000 o bobl ar wyliau bob blwyddyn.

Mae 12 o bobl yn gweithio i Seren Arian.

'Costau tanwydd'

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Elfyn Thomas, mewn datganiad:

"Mae'n ddrwg iawn gen i orfod cyhoeddi nad yw Seren Arian yn medru parhau i fasnachu.

"Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i achub y busnes, ond yn anffodus aflwyddiannus oedd yr ymgais i wrthsefyll effeithiau'r dirwasgiad a chostau cynyddol tanwydd.

"Yn anffodus nid ydym mewn sefyllfa i anrhydeddu archebion yn y dyfodol. Ein prif bryder ar hyn o bryd yw sicrhau pob cwsmer sydd wedi talu blaendal neu'r swm llawn am wyliau bws y byddan nhw'n cael eu harian yn ôl.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i holl staff a chwsmeriaid y cwmni am eu teyrngarwch dros y degawdau, a hefyd am eu cefnogaeth yn y cyfnod anodd yma."

Ad-daliadau

Mae eu dyfodol nhw'n ansicr wrth i'r gweinyddwyr geisio gweld os bydd gan unrhyw un ddiddordeb mewn prynu'r cwmni.

Mae Seren Arian yn aelodau o gynllun Bonded Coach Holidays (BCH) - corff sy'n gofalu am gwsmeriaid mewn sefyllfa fel hyn ac sy'n cael ei gymeradwyo gan y llywodraeth.

Bydd BCH yn gweithio gyda'r gweinyddwyr i dalu arian yn ôl i gwsmeriaid sydd wedi talu am wyliau fydd ddim yn digwydd nawr, ac i ddod ag unrhyw deithwyr sydd wedi cael eu dal dramor yn ôl adre.

Dylai unrhyw un sydd am hawlio arian yn ôl am wyliau gysylltu â Ffederasiwn Cludo Teithwyr ar 0207 240 3131.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol