Glowyr pwll Gleision: Angladd ola'

  • Cyhoeddwyd
Charles Breslin, Phillip Hill, Garry Jenkins a David PowellFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Y pedwar glöwr fu farw: Charles Breslin, Phillip Hill (uchaf) a Garry Jenkins, a David Powell (gwaelod, chwith i dde)

Cafodd angladd y pedwerydd glöwr fu farw yng Nghwm Tawe ei chynnal ddydd Gwener.

Cafodd David Powell ei gladdu yn Eglwys Dewi Sant, Ystalyfera, am hanner dydd.

Hon oedd yr angladd ola wedi i'r pedwar farw ym mhwll glo Gleision yng Ngilybebyll ger Pontardawe fis diwetha'.

Yn ôl perthnasau Mr Powell, roedd yn "ŵr, tad, tad-cu, mab a ffrind arbennig iawn", "glöwr a dyn balch" oedd yn "llawn bywyd, ac yn dod ag hapusrwydd i unrhyw un o'i amgylch."

Cafodd angladd Charles Breslin, 62 oed o Gwm Tawe, ei chynnal yn Amlosgfa Treforys ddydd Mercher, Medi 28.

Cynhaliwyd angladd Phillip Hill, 45 oed o Gastell-nedd, yn Amlosgfa Margam ddeuddydd yn ddiweddarach, gydag angladd Garry Jenkins, 39 oed o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa y dydd Sadwrn canlynol.

Mae cronfa, gafodd ei sefydlu ar gyfer y teuluoedd, wedi casglu mwy na £300,000.

Mae Heddlu'r De a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio i'r ddamwain.

Y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu'r De sy'n arwain yr ymchwiliad i'r marwolaethau.

Dywedodd y byddai'r ymchwiliad yn "hir a chymhleth ond y byddwn yn gwneud popeth posib i ddarganfod sut y collodd y pedwar eu bywydau".