Geraint Thomas yn ystyried rhoi'r gorau i rasio trac

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Geraint Thomas oedd y gorau o feicwyr Prydain yn y Tour de France eleni

Mae'r pencampwr Olympaidd o Gymru, Geraint Thomas, wedi awgrymu mai'r Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 fydd ei ras olaf ar y trac.

Gwisgodd y Cymro 25 oed y siwmper wen i ddynodi'r beiciwyr ifanc gorau yn saith cymal agoriadol y Tour de France eleni.

Mae Thomas, oedd yn rhan o dîm Prydain wnaeth gynorthwyo Mark Cavendish i ennill pencampwriaeth rasio ffordd y byd yn ddiweddar, yn bwriadu canolbwyntio ar rasio ffordd wedi'r gemau yn Llundain.

Record byd

"Dyna fydd diwedd fy nghyfnod ar y trac mae'n debyg," meddai.

"Mae pedair blynedd yn gyfnod hir mewn chwaraeon beth bynnag, ac am tua blwyddyn wedi'r Gemau yn Llundain fe fyddaf ar y ffordd yn llwyr.

"Mae'n debyg y byddaf yn cystadlu yng nghylchdaith Sbaen bythefnos wedi'r rownd derfynol yn Llundain."

Cafodd Thomas ei fuddugoliaeth broffesiynol gyntaf yn ras Bayern-Rundfahrt yn Yr Almaen yn 2011 cyn gorffen yn safle 31 - yr uchaf i feiciwr o Brydain - yn y Tour de France.

Ond mae Thomas ar fin dychwelyd i rasio trac am gyfnod.

Enillodd y beiciwr o Gaerdydd fedal aur yn Beijing yn 2008 gan dorri'r record byd yn y ras gwrso i dimau yn y broses wrth ochr Bradley Wiggins, Ed Clancy a Paul Manning.

Bydd y tîm o Brydain, sydd hefyd yn bencampwyr byd, yn ceisio amddiffyn eu teitl yn Llundain yn 2012, ond dywed Thomas fod y ddau fath o rasio yn bur wahanol erbyn heddiw.

"Mae rasio trac mor benodol y dyddiau hyn. Rydym yn pedalu 30 tro y funud yn gyflymach nag y byddwn ar y ffordd," meddai Thomas.

"Mae'n galed ac mae'n rhaid treulio cryn dipyn o amser ar y trac er mwyn cadw'r safon."

'Aberthu'

Mae Thomas wedi cadarnhau nad yw'n debygol o gystadlu mewn rasys ffordd y flwyddyn nesaf, gan gynnwys y Tour De France, cymaint yw'r angen i arbenigo.

Ychwanegodd: "Bydd rhaid i mi aberthu'r Tour de France a'r clasuron eraill, sef y rasys mwyaf y medraf eu gwneud ar y ffordd.

"Rwy'n caru'r rasys yna, ond mae'r Gemau Olympaidd yn anferth i mi y flwyddyn nesaf.

"Os oes rhaid methu'r rasus ffordd er mwyn gwneud y Gemau, yna dyna fydd rhaid i mi wneud.

"Dyw hynny ddim yn bendant, ond mae'n debygol. Byddaf yn trafod gyda'r hyfforddwyr i benderfynu, ond dwi ddim am beryglu'r Gemau Olympaidd mewn unrhyw ffordd."

Bydd cyfweliad llawn gyda Geraint Thomas ar Sport Wales, BBC 2 Cymru am 9:00pm nos Wener, Hydref 7.