Gwasanaeth fferi rhwng Llydaw a Chymru?

  • Cyhoeddwyd
FferiFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cyn-ymgynghorydd Britanny Ferries yn annerch y gynhadledd

Bydd posibilrwydd sefydlu gwasanaeth fferi rhwng Llydaw a Chymru yn cael ei drafod mewn cynhadledd yn Saint-Nazaire dros y Sul.

Arbenigwyr o'r ddwy wlad sy'n trafod hanes morol cyffredin Cymru a Llydaw yn ogystal â thrafod ffyrdd newydd o edrych ar newidiadau economaidd.

Bydd siaradwyr yn trafod y cysylltiad rhwng y ddwy wlad yn y 19fed ganrif pan allforiwyd glo o Dde Cymru i Lydaw.

Hefyd bydd yna ddarlith am y dyn o Gaerdydd gafodd y syniad am y cyrch Commando lwyddodd i ddinistrio doc sych Saint-Nazaire ym 1942.

'Cysylltiad'

Ymysg y cyfranwyr yn y gynhadledd mae'r awdur a'r newyddiadurwr o Bontypridd, Gwyn Griffiths.

Fe yw awdur y llyfr am gysylltiad y Sioni Winwns â Chymru - Y Shonis Olaf - a fe oedd yn gyfrifol am sefydlu amgueddfa barhaol i'r Sionis yn Roscoff ym 1995.

"Mae gan Gymru a Llydaw gysylltiad morol hir a nod y gynhadledd yw nodi hyn a cheisio cynnal y cysylltiad hynny yn y dyfodol," meddai Gwyn sydd wedi cyfieithu nifer o ddramâu Llydaweg i'r Gymraeg.

Un o uchafbwyntiau'r gynhadledd, meddai, fydd araith Yves Laines oedd arfer bod yn ymgynghorydd cwmni Brittany Ferries.

"Bydd Yves yn siarad am y posibilrwydd o greu gwasanaeth fferi rhwng un o borthladdoedd Llydaw ag Abertawe yn y dyfodol," meddai.

Bydd Brian Davies o Amgueddfa Pontypridd yn sôn am ei waith ymchwil sy'n ymwneud â'r cysylltiad rhwng glofeydd de Cymru a Llydaw.

"Mae'r cysylltiad yn estyn yn ôl i'r 16eg ganrif pan gafodd glo ei allforio o Lanelli i Brest i wresogi tai," meddai Gwyn.

"Ond fe ddaeth y cysylltiad yn gryfach oherwydd dyn o'r enw John Nixon ddatblygodd byllau glo yn Aberpennar yn ystod y 18fed ganrif.

"Dechreuodd Nixon allforio glo i Nantes am fod glo o Gymru o ansawdd da oedd yn llosgi heb lawer o fwg.

Cyrch

"Yna yn ystod yr 1860au fe gafodd gwaith haearn a dur anferth ei adeiladu yn Triniac a mewnforwyd y rhan fwyaf o'r glo o Gymru i helpu adeiladu cychod.

"Parodd y cysylltiad hwn tan yr 1980au pan deithiodd llawer o bobl gyda bwyd ac arian o Lydaw i Gymru i helpu'r glowyr yn ystod Streic y Glowyr yn 1984."

Bydd y gynhadledd yn cynnwys darlith am gyrch Commando ddinistriodd ddoc Saint-Nazaire ym 1942.

Cafodd y stori ei throi'n ffilm o'r enw Attack on The Iron Coast yn 1967.

"Y nod oedd atal llong rhyfel y Tirpitz rhag gadael porthladd Saint Nazaire," meddai Gwyn.

"Dyn o Gaerdydd o'r enw Bill Pritchard gafodd y syniad am y cyrch ac roedd sawl 'rhagymarfer' yn Y Barri."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol