Heddlu'n arestio treisiwr

Edwin Smith Image copyright Other
Image caption Cafwyd Edwin Smith yn euog o droseddau gafodd eu cyflawni rhwng 1985 a 2006, medd yr heddlu

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i ddyn yr oedden nhw'n chwilio amdano ers dydd Mawrth.

Doedd Edwin Smith, 43 oed o ardal Bargoed yn Sir Caerffili, ddim wedi ymddangos yn y llys yng Nghasnewydd.

Yn ei absenoldeb fe'i cafwyd yn euog o 13 o droseddau, gan gynnwys treisio, ymosodiad rhyw difrifol ac ymosod corfforol.

Roedd y dyfarniadau'n ymwneud â throseddau ddigwyddodd rhwng 1985 a 2006, meddai'r heddlu.

Mae Smith yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu eu bod am ddiolch i'r cyhoedd a'r cyfryngau am eu help.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.