Balchder i fwyty newydd sydd wedi ennill seren Michelin
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion bwyty newydd ym Mhowys yn dathlu derbyn cydnabyddiaeth hynod bwysig o'r byd coginio.
Misoedd ar ôl agor ym mis Mawrth mae The Checkers yn Nhrefaldwyn wedi ennill seren Michelin.
Mae'r gyfrol newydd o'r Michelin Guide 2012 yn disgrifio'r bwyty fel "tafarn o'r 18fed Ganrif sy'n cynnig bwyd clasurol mewn modd medrus".
Dywedodd y prif gogydd, Stephane Boire, eu bod yn falch iawn.
"Rydym wedi bod yn y busnes yma ers yr oeddem yn blant, mae'n llwyddiant arbennig iawn."
Cafodd Mr Boire ei hyfforddi gyda'i gyd-Ffrancwr, Michel Roux, yn y Waterside Inn yn Bray yn Sir Berkshire, bwyty tair seren Michelin.
Ailwampio
Mae ei bartner, Sarah Francis yn ferch fferm o Trefonen ger Croesoswallt.
Gyda'i chwaer hi, Kathryn, yn gyfrifol am flaen y tŷ, fe wnaethon nhw agor i ddechrau yr Herbert Arms yn Chirbury ger Trefaldwyn yn 2008 cyn cymryd drosodd The Checkers a agorodd ym mis Mawrth.
"Hen dafarn oedd yma ac fe aethon ni ati i'w ailwampio," meddai Mr Boire.
"Gan ein bod wedi bod yn yr ardal am dair blynedd roedd ganddo ni nifer o gwsmeriaid da a oedd yn teithio yma, mor bell â Wolverhampton."
Mae'r tri - sy'n disgrifio'u hunain fel "Y Ffrancwr a'r Merched Fferm" - yn cyflogi 12 o bobl ac yn gallu paratoi 40 o brydau drwy ddefnyddio cynnyrch lleol o ffermydd ym Mhowys a Sir Amwythig.
"Rydym yn hynod o ddyledus i Michel Roux - mae o wedi bod yn ddylanwadol iawn yn ein gyrfaoedd ac yn ein llwyddiannau," meddai Ms Francis.
Mae gan Gymru bedwar bwyty seren Michelin.
Mae The Checkers yn newydd ar y rhestr ac mae 'na un wedi colli ei statws, Neuadd Ynyshir ger Machynlleth.
Y tri arall sy'n cadw eu sêr yw Tyddyn Llan yn Llandrillo, Sir Ddinbych; The Walnut Tree yn Y Fenni a The Crown at Whitebrook yn Abergwenffrwd, Sir Fynwy.
Straeon perthnasol
- 16 Ionawr 2010