Teulu: Y gamp o gytuno?
- Cyhoeddwyd

Mae'r gyflwynwraig Sarra Elgan yn credu bod gan dîm rygbi Cymru gyfle gwych i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ond mae ei gŵr yn anghytuno.
Dywedodd Simon Easterby, sy' wedi ennill 65 o gapiau i Iwerddon, y byddai'r gêm yn agos.
Ac mae 'na ansicrwydd yn y tŷ ynglŷn â pha liw crys y bydd y plant, Soffia, pedair oed a Ffredi, dwy oed, yn eu gwisgo ar gyfer y gêm fawr fore Sadwrn.
"Mae Soffia yn sicr yn gwybod bod ei thad yn arfer chwarae i Iwerddon ac yn browd o hynny," meddai'r gyflwynwraig.
"Mae'r ddau'n gwisgo crys Iwerddon weithiau ac yn eu cefnogi nhw pan maen nhw ar y teledu.
"Alla i ddim gwarantu na fyddan nhw'n gwisgo crys gwyrdd bore Sadwrn - mae'n dibynnu pwy fydd wedi codi'r cynhara', fi neu Simon."
Roedd Sarra, cyflwynwraig ar raglen Jonathan, yn siarad cyn y rhaglen ar S4C am 9.30pm nos Wener.
"Rwy'n credu y gall Cymru faeddu Iwerddon ond fe fydd hi'n agos iawn.
"Does dim rheswm pam na allan nhw wedyn fynd yn ein blaenau i faeddu Ffrainc neu Loegr yn y rownd gynderfynol ..."
Ond mae ei gŵr, wrth reswm, am i Iwerddon ennill.
"Yn naturiol, mae e'n moyn i Iwerddon ennill ond mae'n dweud y bydd yn cefnogi Cymru am weddill y bencampwriaeth os yw Cymru'n ennill," meddai Sarra, merch Elgan Rees, cyn-asgellwr Cymru.
"Ac os yw Iwerddon yn ennill, y crys gwyrdd y bydda i'n ei gefnogi."
Ar y rhaglen nos Wener fe fydd Sarra a Jonathan Davies yn croesawu dau westai a fydd yn sicr o gefnogi Cymru - un o sêr Hollywood, Matthew Rhys, a'r gyflwynwraig Mari Lovgreen.
Straeon perthnasol
- 18 Mawrth 2005
- 12 Chwefror 2005
- 6 Chwefror 2005