Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent yn ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Bydd y penderfyniad yn dod i rym am 5pm ddydd Llun
Mae Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent wedi ymddiswyddo.
Mae Des Hillman, cynghorydd Annibynnol, yn honni iddo gael ei danseilio gan aelodau ei grŵp ei hun sy'n rheoli'r cyngor.
Mae Mr Hillman yn cynrychioli ward Blaenau.
Fis diwethaf penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad roi gwasanaethau addysg y sir yn nwylo dau gomisiynydd.
Roedd hynny wedi adroddiad beirniadol oedd yn sôn am fethiannau rheolwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad heddiw.
"Bydd y penderfyniad yn dod i rym am 5pm ddydd Llun.
"Mae'r cyngor wedi cytuno i gynnal cyfarfod ddydd Gwener i ystyried rheolaeth wleidyddol y cyngor."
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol