Cofio yr actores Eleanor Daniels sydd â 'stori ryfeddol'

  • Cyhoeddwyd
Eleanor DanielsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Eleanor Daniels yn gynnar yn ei gyrfa fel actores

Mae plac er cof am actores oedd yn perfformio mewn Eisteddfodau ac yn Broadway yn cael ei ddadorchuddio yn y tŷ yn Llanelli ble cafodd hi ei magu.

Roedd Eleanor Daniels mewn dramâu llwyfan yn America yn ogystal â ffilmiau yn y degawdau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ferch i fasnachwr gwair, enillodd dair Cadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fe gafodd hi ei hanrhydeddu yn 1930 gan yr Orsedd.

Bu farw yn America yn 1994 yn 107 oed.

Mae'r plac glas yn cael ei ddadorchuddio yn 40 Stryd Thomas gan ei nith Gwyneth Phillips am hanner dydd.

Yr awdur Stephen Lyons gafodd y syniad wrth ysgrifennu bywgraffiad ei chyfoeswr mwy enwog, yr actor Gareth Hughes.

"Doedd hi ddim yn seren enfawr," meddai, "ond, yn sicr, roedd hi'n cael ei pharchu ac yn adnabyddus yn Broadway. Fe gafodd hi adolygiadau da iawn.

"Mae'n stori ryfeddol, byw tan oedd hi'n 107 oed wedi bywyd byrlymus".

Fe'i ganed yn 1886 a llwyddo am y tro cyntaf mewn Eisteddfod yn 13 oed. Ei henw barddol oedd Ellyw.

Ar ôl gweithio fel athrawes trodd at y llwyfan yn llawn amser.

"Roedd hi'n fenyw ryfeddol" meddai Mr Lyons.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol