Gweilch yn hedfan

  • Cyhoeddwyd

Nos Wener

Scarlets 33-17 Caeredin

Glasgow 24 -19 Dreigiau

Dydd Sadwrn

Aironi 26 -37 Gleision

Munster 13-17 Gweilch

Yn Iwerddon enillodd y Gweilch eu chweched gêm y tymor hwn wrth faeddu Munster 17-13.

Mae hyn yn cryfhau eu safle ar y brig.

Roedd pwysau'r Cymry'n golygu bod y Gwyddelod yn ildio ciciau cosb a llwyddodd maswr y Gweilch, Dan Biggar, i gicio pedair.

Yn yr ail hanner ciciodd Keatley gic gosb i'r Gwyddelod ac yn y munudau ola roedd y tîm cartre'n gwarchae llinell y Cymry.

Ond ciciodd Biggar gic gosb a selio'r fuddugoliaeth.

Enillodd y Gleision yn yr Eidal ar ôl colli tair gêm yn olynol a'r sgôr oedd 26-37.

Sgoriodd yr asgellwr o Samoa, Sinoti Sinoti Toomaga, i'r Eidalwyr ar ôl dwy funud cyn i'r Cymry daro'n ôl.

Dau gais

Sgoriodd Czekaj ddau gais a chiciodd Sweeney dair cic gosb.

Ar ôl colli pedair gêm yn olynol daeth buddugoliaeth yn y Pro12 i'r Scarlets nos Wener yn erbyn Caeredin o 33-17.

Roedd yna bwynt bonws hefyd wrth i'r tîm cartref sgorio pedwar cais.

Daeth ceisiau'r Scarlets oddi wrth Adam Warren (2), Richie Pugh a Rhys Thomas.

Ar yr egwyl roedd hi'n agos iawn, 13-10 i'r tîm cartref.

Er iddyn nhw fod ar y blaen am gyfnod, colli wnaeth y Dreigiau 24-19 oddi cartref yn Glasgow.