Tân yn dinistrio clwb

  • Cyhoeddwyd

Mae tân wedi dinistrio clwb cymdeithasol yn Llansamlet, Abertawe.

Doedd neb yno ar y pryd.

Fe gafodd dynion tân eu galw i Glwb y Four Seasons yn Heol Trallwn am 3:57am.

Yn wreiddiol, fe gafodd chwe chriw eu galw.

Yn Awst 2010 yn y clwb daethpwyd o hyd i hyd at 3,000 o blanhigion canabis oedd yn werth £1m, meddai'r heddlu.

Yn y cyfamser, aed ag unigolyn i'r ysbyty wedi tân mewn cegin yn Neiniolen, Gwynedd.

Fe gafodd dynion tân eu galw am 6.13am.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân: "Mi oedd y tân yn ddamweiniol ac aed ag unigolyn i'r ysbyty am archwiliad rhag ofn."