Capten: 'Heb ennill dim eto'

  • Cyhoeddwyd
Shane Williams yn sgorio cais i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Shane Williams yn sgorio cais cyntaf Cymru

Mae capten Tîm Rygbi Cymru, Sam Warburton, wedi dweud nad ydyn nhw wedi "ennill dim byd eto" er gwaetha buddugoliaeth ysgubol ddydd Sadwrn.

Fe fydd Cymru'n wynebu Ffrainc ddydd Sadwrn yn y rownd go derfynol yn Auckland wedi iddyn nhw drechu Iwerddon 22-10.

'Rhaid i ni ailganolbwyntio ddydd Llun," meddai'r capten, "ac edrych ymalen at y rownd go derfynol."

"Yn sicr, hon fydd y gêm fwya i ni erioed."

Hwn yw'r perfformiad gorau yng Nghwpan y Byd ers 24 o flynyddoedd yn ôl.

"Roedd yn deimlad bendigedig ar ddiwedd y gêm ddydd Sadwrn ac roeddwn i'n gwenu o glust i glust wrth adael y cae.

"Ond dyw'r frwydr ddim ar ben."

Yn y cyfamser, mae amheuon am ffitrwydd Luke Charteris adawodd y cae wedi 16 o daclau yn ystod yr hanner cynta. Mae wedi anafu ei ysgwydd.

Yr un anaf gafodd y maswr, Rhys Priestland, adawodd y cae yn y 77fed funud.

"Gyda lwc, fe fydd y ddau'n gwella yn ystod yr wythnos," meddai'r hyfforddwr cynorthwyol, Robert Howley.

Ar dân'

Dechreuodd Cymru y gêm ar dân ddydd Sadwrn ac o fewn tair munud roedden nhw ar y blaen.

Hyrddiodd Jamie Roberts drwy amddiffyn Iwerddon ac aeth y bêl yn gyflym i Shane Williams ar yr asgell sgoriodd gais trawiadol.

I roi hwb pellach i hyder Cymru, llwyddodd Rhys Priestland gyda'r trosiad o ongl anodd.

Yn fuan wedyn dechreuodd Iwerddon roi pwysau ar Gymru.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Y chwiban ola: Gorfoledd

Ildiodd Cymru dair cic cosb mewn cyfnod byr ond, yn annisgwyl, penderfynodd Iwerddon gicio i'r ystlys yn lle mynd am y pyst.

Er gwaetha'r bygythiad i'r llinell roedd amddiffyn Cymru yn gadarn.

Daeth unig bwyntiau Iwerddon yn yr hanner cyntaf o esgid O'Gara oherwydd cic gosb yn erbyn Sam Warburton.

Ond yn fuan wedyn llwyddodd Cymru i gadw'r bwlch i saith pwynt.

Ar wib

Wedyn ciciodd Lee Halfpenny gic gosb o gryn bellter.

Cymru ddechreuodd yr hanner cynta ar wib ond tro Iwerddon oedd hi ar ôl yr egwyl.

Ar ôl pwyso ar linell Cymru cydchwaraeodd Ferris a Bowe cyn rhyddhau Keith Earls ar yr asgell a groesodd yn y gornel.

Llwyddodd O'Gara gyda'i gic fel bod y sgôr yn gyfartal 10-10 ar ôl 44 munud.

Ond tarodd Cymru yn ôl bron yn syth. Fe gollodd Iwerddon y bêl yn y lein a dangosodd mewnwr Cymru, Mike Phillips, ei gryfder a'i gyflymdra wrth groesi yn y gornel chwith.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Mike Phillips yn sgorio ail gais Cymru

Llaw ucha

Methodd Priestland gyda'r gic. Roedd Cymru ar y blaen o 15-10.

Wrth i'r gêm barhau roedd blaenwyr Cymru â'r llaw ucha. Cafodd Cian Healy ei gosbi yn y sgarmes ac roedd cyfle i Priestland roi Cymru ymhellach ar y blaen.

Ond pwniodd y bêl y trawst.

Parhau i bwyso wnaeth Cymru ac roedd cryfder a chyflymdra Jonathan Davies yn amlwg wrth iddo sgorio'r trydydd cais.

Roedd Iwerddon yn blino a llwyddodd Davies i fylchu rhwng Heal a Earls i groesi yn y gornel.

Roedd trosiad Priestland yn llwyddiannus a Chymru ar y blaen 22-10 ar ôl 63 munud.

Daeth cyfle arall iddo ar ôl trosedd Trimble yn erbyn Gethin Jenkins ond am yr eildro pwniodd y bêl y trawst.

Ar ôl hynny dim ond saith munud oedd yn weddill. Er i Iwerddon bwyso, roedd amddiffyn Cymru'n gadarn.