Crasfa i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd

CASNEWYDD 0-3 SOUTHPORT
Ni chafodd rheolwr newydd Casnewydd, Justin Edinburgh, ddechrau addawol wrth i'w dîm golli 0-3 gartre i Southport.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen pan beniodd Simon Grand.
Wedyn peniodd Karl Ledsham wedi i Tony Gray groesi'n grefftus a sgoriodd Gray'r drydedd gôl wedi gwaith arbennig Andy Owens.
Hon oedd y drydedd fuddugoliaeth o'r bron i'r ymwelwyr.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol