Cynllun yn 'dal dŵr'?
- Cyhoeddwyd
Fe allai hyd at chwarter toiledau cyhoeddus sir gael eu cau neu eu gwerthu oherwydd cynlluniau arbed arian.
Mae 38 o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn ac mae'r cyngor yn bwriadu cau neu werthu naw er mwyn arbed hyd at £30,000, gan gynnwys rhai yn Amlwch, Porthaethwy, Niwbwrch a thri yng Nghaergybi.
Fe allai'r adeiladau gael eu defnyddio i bwrpas arall ond fe fyddai hyn yn dibynnu ar ganiatâd cynllunio.
Eisoes mae hysbyseb wedi cyfeirio at y toiledau allai fod o dan fygythiad.
Dywedodd y cyngor: "Mae'n rhy gynnar i ni gyhoeddi datganiad am y safleoedd os bydd rhai'n prynu'r toiledau allai gael eu cau yn y dyfodol.
"Os ydyn nhw'n cau, fe fyddai rhaid i brynwyr ddilyn y drefn gynllunio angenrheidiol ..."
Mae llefarydd wedi dweud bod y cyngor yn ehangu'r cynllun sy'n ariannu busnesau fel caffis a thafarnau sy'n fodlon i'r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau.
Ym mis Mehefin fe gasglodd adroddiad fod £339,000 wedi eu gwario am dair blynedd ar gynnal a chadw toiledau cyhoeddus ar yr ynys.
Straeon perthnasol
- 23 Gorffennaf 2011
- 14 Mehefin 2011
- 14 Mai 2011