Ymchwiliad i honiadau o orfodi pobl i weithio
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru'n deall bod yr Asiantaeth Troseddu Cyfundrefnol Difrifol yn cynnal sawl ymchwiliad yng Nghymru oherwydd honiadau bod pobl yn cael eu gorfodi i weithio.
Fe allai cyflogwyr gael eu carcharu.
Y gred yw bod nifer o weithwyr yn cael eu gorfodi i weithio shifftiau a bod eu cyflogwyr yn torri amodau deddf newydd gwrth-gaethwasiaeth.
Dywedodd y Mudiad yn erbyn Caethwasiaeth Rhyngwladol eu bod yn amcangyfri' bod 5,000 yn cael eu gorfodi i weithio yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae saith o bobl yn cael eu herlyn yn Lloegr ar hyn o bryd, am dorri amodau'r ddeddf yma.
Maen nhw wedi eu gorfodi i orfodi pobl o Loger, Gwlad Pwyl a Romania i weithio yn erbyn eu hewyllys a hynny mewn safle i deithwyr yn Sir Bedfrod.
Gorfodi i weithio
Fe ddaeth y ddeddf newydd i rym y llynedd gan ei gwneud yn anghyfreithlon i orfodi rhywun i weithio shifftiau.
Hyd yn hyn mae'r rhan fwya o ymchwiliadau wedi canolbwyntio ar fenywod yn cael eu masnachu i bwrpas rhyw.
Ond mae BBC Cymru'n deall bod yr ymchwiliadau diweddara'n ymwneud â phobl sy'n cael eu gorfodi i weithio mewn ffatrïoedd.
Mae Bob Tooby, Cydlynydd Cymru yn erbyn Masnachu Pobl, wedi dweud bod hyn yn digwydd ar raddfa fawr.
"Yn sicr, mae 'na dystiolaeth fod masnachu llafur yn digwydd yng Nghymru.
"Nid yn unig mae hyn yn digwydd ar ffermydd.
"Mae'n digwydd mewn ffatrïoedd, gwestai, poptai ac yn y blaen."
Cadarnhaodd fod ymchwiliadau ar y gweill yng Nghymru.
"Mae'r cyfnod economaidd yn anodd iawn ac mae rhai cyflogwyr wrth eu boddau am fod llafur rhad ar gael.
"Ond mae eu dulliau weithiau'n anghyfreithlon."