Gwylio gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm
- Cyhoeddwyd

Bydd Stadiwm y Mileniwm ar agor ddydd Sadwrn er mwyn croesawu miloedd o gefnogwyr rygbi i wylio gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd ar sgrin fawr.
I'r cefnogwyr fe fydd 'na fynediad am ddim i'r weld yr hyn sy'n digwydd yn Auckland am 9am (amser Cymru).
Daeth y cyhoeddiad ddydd Llun ar ôl buddugoliaeth Cymru ddydd Sadwrn diwethaf o 22-10 yn erbyn Iwerddon yn Wellington.
Fe fydd tua 25,000 o docynnau ar gael o 10am ddydd Mawrth.
Cafodd y gêm yn erbyn Ffrainc ei disgrifio fel yr un bwysicaf yn hanes rygbi Cymru ac mae 'na obaith y gallai Cymru gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf.
Gobaith rheolwyr y Stadiwm yw y bydd y cefnogwyr adra eisiau dod at ei gilydd a rhannu'r profiad o wylio Cymru mewn rownd-derfynol Cwpan y Byd am yr eildro yn unig yn hanes y bencampwriaeth.
"Gyda llwyddiant Cymru a gweld y gêm ddydd Sadwrn roeddem yn gwybod y byddai'n rhaid i ni wneud rhywbeth arbennig," meddai Gerry Toms, rheolwr Stadiwm y Mileniwm.
"Mae'n gyfle unigryw yn hanes rygbi Cymru.
"Mae 'na gyfle gwirioneddol i ni gyrraedd y rownd derfynol."
Dywedodd ei fod yng obeithiol y bydd tua 25,000 yn ymuno gyda'r dathliadau ond y gallai'r ffigwr newid gan ddibynnu ar yr ymateb yn ystod yr wythnos".
Ond ychwanegodd bod rhaid cael tocyn er eu bod am ddim a hynny ar un amod "bod pawb yn gwisgo coch".
Gellir casglu'r tocynnau o Giât 3 Stryd Westgate neu drwy wefan Ticketmaster.
Mae modd archebu uchafswm o chwe thocyn.