Achos gwn i Lys y Goron
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gateshead ger Newcastle wedi ymddangos gerbron ynadon Dolgellau ar gyhuddiadau o fod a gwn yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi ofn.
Honnir bod Gareth James Sale, 25 oed, wedi cyflawni'r drosedd yn nhafarn y Royal Oak ym Mhenrhyndeudraeth ar Fehefin 18.
Cafodd yr achos ei ohirio tan y bydd yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 21.
Rhyddhawyd Mr James ar fechnïaeth ar yr amod nad yw'n dod i Gymru heblaw i fynychu'r achos llys.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol