Cost angladdau iechyd cyhoeddus ar gynnydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae angladdau iechyd cyhoeddus ar gynnydd yng Nghymru - maent wedi dyblu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac mae rhybudd y bydd y sefyllfa'n gwaethygu eto.
Cynghorau lleol sy'n talu am ac yn trefnu'r math yma o angladdau, ac yn ôl ffigyrau a ddaeth i law rhaglen Week In Week Out BBC Cymru, mae'r gost i awdurdodau wedi cynyddu 168% dros y 10 mlynedd diwethaf.
Ar gyfartaledd, mae bedd yng Nghymru'n costio £800, ac mae hynny cyn talu trefnwyr angladdau.
Mae'r cynnydd wedi cael effaith ar deuluoedd fel un Joanne Sunter o Abertawe.
Dywedodd hi fod pedwar o drefnwyr angladdau wedi gwrthod rhoi eu gwasanaeth oherwydd nad oedd y teulu'n gallu fforddio talu blaendal o gannoedd o bunnoedd.
"Roedd corff fy mam mewn marwdy, ei chorff yn pydru, a doedd y bobl yma ddim yn fodlon fy helpu."
Yn ôl rhai trefnwyr angladdau, y cynghorau lleol sydd ar fai am y sefyllfa.
Bedd heb enw
Dywed Clive Peterson o Gwmbrân fod angladdau yn ddrud oherwydd y ffioedd sy'n cael eu codi gan gynghorau.
"Does yna ddim system reolaeth. Er enghraifft, chawsom ddim rhybudd o flaen llaw fod cyngor Caerffili am gynyddu eu prisiau 18% heb gynnwys chwyddiant dros y pum mlynedd nesa'.
Mae'r gwasanaeth yn un syml a rhoddir y corff mewn bedd sydd heb enw.
Gallai'r bedd gael ei ddefnyddio dair neu bedair o weithiau.
Fel rheol, mae angladdau o'r fath yn cael eu cynnal pan nad oes teulu agos.
Ond yn ddiweddar maent yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin, mewn achosion lle nad yw'r teulu yn gallu fforddio'r gost.
"Dydy o ddim yn rhywbeth rydym am ei weld, ond mae'n adlewyrchu natur ein cymdeithas a hefyd problemau'r economi, " meddai Steven Thomas, prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.