Mainc flaen yr Wrthblaid: 12 AS Cymreig
- Cyhoeddwyd

Mae Ed Miliband wedi dewis 12 Aelod Seneddol Cymreig fel rhan o'i dîm mainc flaen gan gynnwys dau a gafodd eu hethol y llynedd.
Mae AS Pontypridd, Owen Smith wedi ei ddyrchafu i fod yn rhan o dîm Trysorlys yr Wrthblaid ac mae AS De Clwyd, Susan Elan Jones, yn un o dri chwip Cymreig.
Yn gynharach eleni pleidleisiodd y Blaid Lafur i ddileu etholiadau i Gabinet yr Wrthblaid.
Mae hyn wedi galluogi Mr Miliband i benodi aelodau'r Cabinet.
'Newydd wedd'
Mae AS Castell-nedd, Peter Hain wedi cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru.
Ond Mr Hain yw unig aelod Cymreig Cabinet yr Wrthblaid yn dilyn ad-drefniad ddydd Gwener diwethaf.
Bydd AS Llanelli, Nia Griffith, yn cymryd hen swydd Owen Smith fel un o Weinidogion y Swyddfa Gymreig ac fe fydd y cyn aelod seneddol, Yr Arglwydd Bryan Davies o Oldham, hefyd yn siarad ar ran y Blaid Lafur ar faterion Cymreig yn San Steffan.
Roedd y 12 AS naill ai wedi bod yn rhan o fainc flaen ddiwethaf y Blaid Lafur neu yn Ysgrifenyddion Seneddol Preifat.
Dywedodd Mr Miliband fod Cabinet yr Wrthblaid "ar ei newydd wedd" pan gyhoeddodd enwau aelodau ei gabinet yr wythnos diwethaf.