Nani yn dwyn arian gan gyflogwyr cefnog
- Cyhoeddwyd

Mae nani wedi ei chael yn euog o ddwyn oddi wrth ei chyflogwyr, teulu bonheddig.
Penderfynodd y llys fod Beatrice Dalton, 25 oed, wedi defnyddio cardiau banc ei chyflogwyr i gymryd hyd at £6,600 o'r cyfrifon.
Roedd wedi gwadu chwe chyhuddiad yn ei herbyn - fe'i cafwyd yn ddieuog o bum cyhuddiad o dwyllo, ond yn euog o'r chweched cyhuddiad o ddwyn.
Cafodd yr achos ei ohirio am dair wythnos cyn iddi gael ei dedfrydu.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful bod Ms Dalton yn nani "cyfrifol a gwerthfawr" i'r Fonesig Louisa Collings.
Roedd hi'n gofalu am ei phedwar plentyn ifanc yn Llanandras, Powys.
Ond clywodd y llys ei bod wedi dechrau cymryd arian yn gyfrinachol ac fe'i cyhuddwyd o "fod yn farus" ar ôl sylweddoli nad oedd ei chyflogwyr cefnog yn cadw golwg ar eu cyfrifon banc.
'Anghyfforddus'
Roedd y llys wedi clywed bod y nani £7 yr awr wedi tynnu rhwng £200 a £500 allan 11 gwaith mewn cyfnod o ddau fis.
Clywodd y llys iddi ddweud wrth yr heddlu ei bod wedi cymryd yr arian am ei bod yn teimlo yn "anghyfforddus" yn gofyn am gyflog gan i'w chyflogwyr brynu car iddi.
Mae Ms Dalton, sy'n warchodwraig plant cymwys, yn honni iddi dynnu'r arian oedd yn ddyledus iddi gan Y Fonesig Collings a'i gŵr busnes Ben.
Y Fonesig Collings yw merch ieuengaf Yr Arglwydd Charles Gordon-Lennox, 10fed Dug Richmond sy'n byw yn Goodwood House, Sussex - cartref rasys Goodwood.
Bydd Ms Dalton, a ddaw'n wreiddiol o Bromyard, Sir Henffordd, yn cael ei dedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful ymhen tair wythnos.