Arolwg yn rhoi darlun cymysg o'r farchnad dai
- Cyhoeddwyd

Mae llai o dai yn cael eu rhoi ar y farchnad yng Nghymru, wrth i bryderon am yr economi barhau i gael effaith negyddol ar y farchnad eiddo.
Dangosodd arolwg misol Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod llai o dai wedi cael eu rhoi ar y farchnad yn ystod mis Medi eleni.
Roedd 22% yn fwy o syrfewyr yng Nghymru yn dweud bod nifer y tai ar werth wedi gostwng yn hytrach na chynyddu.
Yn ôl arbenigwyr, mae diffyg hyder oherwydd yr hinsawdd economaidd fregus yn achosi nifer o bobl i feddwl ddwywaith cyn gwerthu eu tai.
Ond er hyn, roedd cynnydd bychan yn nifer y bobl a wnaeth ymholiadau ynglŷn â phrynu tŷ yn ystod mis Medi.
Blaendal mawr
Roedd 5% yn fwy o syrfewyr siartredig yn adrodd cynnydd yn hytrach na lleihad yn y galw am dai.
Er gwaetha'r ffaith bod mwy o ddewis ar gael o ran morgeisi erbyn hyn, mae nifer o bobl yn methu prynu eiddo oherwydd bod angen blaendal mor fawr gan fenthycwyr.
Roedd nifer y tai i'w gweld ar lyfrau syrfewyr wedi gostwng o 122 i 114 ar gyfartaledd yn ystod mis Medi.
Yn y cyfamser, roedd cynnydd bychan yn nifer y tai a werthwyd fesul syrfëwr dros gyfnod o dri mis hyd at fis Awst - o gyfartaledd o 12 i gyfartaledd o 13.
Er bod y farchnad yn parhau yn un heriol, dywed gwerthwyr tai fod pobl yn dal i brynu eiddo sydd wedi'i brisio'n realistig.
Disgynnodd lefel prisiau tai ar gyfartaledd ym mis Medi, gyda 37% yn fwy o syrfewyr yn cofnodi fod prisiau wedi gostwng yn hytrach na chodi.
Cadarnhaol
Ond dyw Cymru ddim yn unigryw o ran y patrwm yma, gyda gostyngiadau o ryw fath i'w gweld ym mhob rhan o'r DU, gan gynnwys Llundain.
Parhau yn gadarnhaol mae disgwyliadau o ran gwerthiant yng Nghymru dros y misoedd nesa', wrth i arbenigwyr ragweld y gallai pobl ddychwelyd i fuddsoddi mewn eiddo yn hytrach na mewn marchnadoedd ariannol ansefydlog.
Dywedodd cyfarwyddwr syrfewyr siartredig Kelvin Francis, Caerdydd, a llefarydd RICS yng Nghymru, Tony Filice:
"Mae'r ffaith bod 'na lai o dai'n dod ar y farchnad yng Nghymru'n arwydd o'r pryderon cyffredinol ynglŷn â'r economi, gyda nifer o bobl yn penderfynu aros lle maen nhw am y tro.
"O ganlyniad, mae'r farchnad dai yng Nghymru'n parhau yn eitha' fflat gyda lefel gweithgarwch yn isel.
"Ond gyda mwy o ddewis ar gael o ran morgeisi, rydym wedi nodi cynnydd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn nifer y bobl sy'n prynu am y tro cynta' a phobl sy'n prynu eiddo ar gyfer ei rentu.
"Er ei bod yn anodd darogan beth allai roi hwb i'r farchnad dai yng Nghymru'n gyffredinol dros y cyfnod nesa', o leia' mae Banc Lloegr wedi gwneud rhywfaint o newidiadau er mwyn cadw cyfraddau llog ar forgeisi i lawr.
"Fe ddylai hyn, os dim byd arall, leihau'r pwysau ar berchnogion tai a chyfyngu'r perygl o adfeddiant."
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2011
- 8 Mawrth 2011
- 8 Chwefror 2011
- 21 Rhagfyr 2010
- 9 Tachwedd 2010