Clawdd Offa yn uno Cymru a Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Clawdd OffaFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clawdd yn ymestyn o ardal Casgwent i Brestatyn

Bydd cais i uno'r holl awdurdodau a sefydliadau sydd ar hyd Clawdd Offa yn cymryd cam pwysig ymlaen yr wythnos hon, gyda lansiad menter Cerdded Gydag Offa.

Nod y prosiect yw hybu cydweithio rhwng Cymru a Lloegr er mwyn gwella profiad y cerddwyr ar hyd y Llwybr Cenedlaethol 176 milltir o hyd rhwng Casgwent a Phrestatyn.

Arweinwyr y partneriaethau yng Nghymru yw Adventa, datblygiad cefn gwlad Cyngor Sir Fynwy.

Eglurodd Cath John, rheolwr cynllun Adventa: "Mae gennym £600,000 o arian ar yr ochr Gymreig a'r syniad yw i ni weithio gyda'n gilydd i wella economi a chynaladwyedd ardal y ffin.

"Mae wedi cymryd tair blynedd i ni gyrraedd y pwynt yma, gyda llawer o ddyfalbarhad.

"Ond mae yna femorandwm o ddealltwriaeth dros y ffin i hybu cydweithio a dyma un o'r prosiectau cyntaf i brofi'r perthnasau yma.

"Mae llawer o'n hamcanion yn debyg ac rydym am ddysgu gan ein gilydd."

Un nod yw creu teithiau cerdded i'r rhai sydd am fwynhau'r clawdd heb gerdded ar ei hyd. Maent hefyd am wella'r llwybrau cerdded sy'n arwain at brif lwybr Offa.

Cafodd y clawdd ei adeiladu ar orchymyn Offa, Brenin Mercia, i wahanu ei dir o Bowys a chafodd ei gyhoeddi'n Lwybr Cenedlaethol ym 1971.

Fel arfer, mae'n cymryd 12 ddiwrnod i gwblhau'r daith sy'n mynd trwy'r Mynyddoedd Duon a Bryniau Sir Amwythig, Eglwyseg a Chlwyd.

'Gwlad Offa'

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clawdd yn ymestyn o ardal Casgwent i Brestatyn

Mae Cerdded Gydag Offa hefyd am weithio i wella gwybodaeth am drafnidiaeth a chyfleusterau eraill i ymwelwyr i 'Wlad Offa'.

"Rydym am i'r brif neges i ymwelwyr fod yr un fath ar hyd y llwybr," meddai Cath John.

"Rydym am roi hyfforddiant i fusnesau a thywyswyr cerdded, gyda'r nod o hyrwyddo'r ffaith mai lle arbennig yw ardal y ffin trwy, er enghraifft, gyflwyno bwyd a chelfyddydau lleol.

"Rydym eisiau pwysleisio pa mor nodedig yw'r ardal hon."

Bydd y prosiect yn cael ei lansio'n swyddogol yng nghanolfan Goffa Tref-y-clawdd ar Hydref 11.

Mae'r prosiect yng Nghymru' cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Cefn Gwlad.

Ymhlith partneriaid eraill y prosiect mae cynghorau Powys, Sir Ddinbych a Sir Amwythig, ynghyd â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol