Y cam nesa' i ganolfan feddygol arloesol
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan feddygol unigryw ar gyfer plant a phobl ifanc yn ceisio codi arian ar gyfer parc pwrpasol i blant sydd ag anableddau.
Canolfan Serennu yng Nghasnewydd yw'r unig un o'i bath yng Nghymru - gan gynnig gofal meddygon, physiotherapyddion a therapyddion lleferydd i gyd dan un to.
20 mlynedd ar ôl dechrau trafod y syniad, fe agorodd y ganolfan yn gynharach eleni - ac mae nawr yn helpu cannoedd o gleifion y gwasanaeth iechyd yn yr hen sir Gwent.
Mae plant yn dod i ganolfan Serennu am bob math o driniaeth - o'r cam cyntaf o ddiagnosis, i weld yr arbenigwyr.
'Popeth dan yr un to'
Dywedodd un o physiotherapyddion y ganolfan, Emma Enoch: "Achos bod popeth dan yr un to, mae hynny'n gwneud pethau'n fwy rhydd i'r rhieni.
"Maen nhw'n hoffi dod yma achos maen nhw'n gallu cwrdd â rhieni eraill yn yr un sefyllfa â nhw. Mae ganddyn nhw siawns i gael coffi gyda'i gilydd a siarad â'i gilydd.
Adroddiad Gwenfair Griffith
"Fi'n mynd â'r plant i'r pwll ac i'r gym, maen nhw'n gwneud ymarferion gyda fi.
"Mae'n lle hyfryd, mae llawer iawn o offer yma gyda ni, ac ry'n ni'n gallu gwneud rhywbeth gwahanol bob tro mae'r plant yn dod yma felly maen nhw'n mwynhau dod yma."
Nid dim ond plant ifanc sy'n cael sylw yn y ganolfan. Mae 'na fflat hefyd i helpu pobl ifanc sydd ag anableddau i ddysgu byw'n annibynnol am y tro cyntaf.
Ond er bod y ganolfan yn falch iawn o'r adnoddau sydd ganddyn nhw, maen nhw'n dal i godi arian i wella'r ddarpariaeth ymhellach.
Mae gardd synhwyrau ar gyfer plant sydd ag anableddau, ond does dim parc chwarae.
Mae'r ganolfan nawr eisiau codi arian ar gyfer sicrhau bod 'na barc pwrpasol i blant Serennu.