Y gwaith yn dechrau ar ddymchwel Lido Afan
- Published
Mae'r gwaith o ddymchwel canolfan hamdden glan y môr, a ddinistriwyd gan dân, wedi dechrau.
Cafodd Lido Afan, yn Aberafan, ei ddifrodi yn 2009 ond mae'r gwaith o glirio'r adeilad wedi bod yn broses gymhleth oherwydd bod 'na asbestos ar y safle.
Mae'r asbestos bellach wedi'i dynnu oddi yno a nawr bydd gweddillion yr adeilad yn cael eu dymchwel.
Bydd pwll nofio, neuadd chwaraeon a chanolfan gymunedol yn cael eu codi o'r newydd, a'r nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 2013 ar gost o £13.6 miliwn.
'Proses gymhleth'
"Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwaith o ddymchwel yr hen Lido Afan yn dechrau," meddai arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ali Thomas.
"Hoffwn ddiolch i'r aelodau lleol a'r gymuned am eu hamynedd a'u dealltwriaeth i gyrraedd at y pwynt yma.
"Mae wedi bod yn broses gymhleth ac mae 'na lawer o waith caled wedi cael ei wneud y tu hwnt i olwg y cyhoedd er mwyn cyrraedd at y fan yma."
Cafodd Lido Afan ei agor ym 1965 gan y Frenhines a Graham Jenkins, brawd yr actor Richard Burton a rheolwr cynta'r ganolfan.
Dros y blynyddoedd, cafodd nifer o gyngherddau mawr eu cynnal yno, gydag ystod eang o berfformwyr - o Spencer Davies i Pink Floyd, ac yn fwy diweddar, Coldplay a McFly.
Ond ym mis Rhagfyr 2009, bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi a chafodd ffyrdd eu cau wrth i dros 100 o ddiffoddwyr tân geisio diffodd tân ar y safle.
Ymgynghoriad
Roedd 2,628 o bobl wedi cyfrannu at ymgynghoriad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar gynlluniau i gymryd lle Lido Afan.
Er bod nifer o bobl wedi dweud y bydden nhw'n hoffi gweld adeilad tebyg yn cael ei godi, dywedodd y cyngor ei fod yn costio £700,000 y flwyddyn i gynnal yr hen lido.
Yn lle hynny, mae'r cyngor yn cynnig adeiladu pwll nofio 25 metr yn lle'r atyniad dŵr a llithrennau a arferai fod yno.
Bydd yna hefyd neuadd chwaraeon ac mae 'na gynlluniau i godi canolfan gymunedol newydd.
Byddai llyfrgell a chanolfan addysg gydol oes Sandfields yn symud i'r safle ar ôl ei gwblhau.
Mae cynghorwyr wedi cael ar ddeall y bydd y prosiect cyfan yn costio £13.6 miliwn.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Gorffennaf 2011
- Published
- 18 Ionawr 2010
- Published
- 23 Rhagfyr 2009
- Published
- 17 Rhagfyr 2009