Gunter yn clodfori adfywiad Cymru
- Cyhoeddwyd

Dywedodd amddiffynwr Cymru, Chris Gunter, y byddai gorffen yn drydydd yn eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Euro 2012 yn hwb i hyder Cymru wrth ddechrau ar ymgyrch Cwpan Y Byd 2014.
Bydd Cymru'n gorffen yn drydydd os fyddan nhw'n curo Bwlgaria yn Sofia nos Fawrth a'r Swistir yn colli i Montenegro.
"Byddai hynny'n gamp aruthrol," meddai Gunter o glwb Nottingham Forest.
"Fe fyddai'n hwb anferthol yr adeg yma'r flwyddyn nesaf pan fyddwn ni'n chwarae'r gemau rhagbrofol nesaf."
Roedd Cymru wedi colli pedair gêm yn olynnol yn Euro 2012 cyn curo Montenegro ym mis Medi.
Ac yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn y Swistir yn Abertawe nos Wener, mae gobaith i dîm Gary Speed gipio'r trydydd safle yn y grŵp.
Byddai hynny, yn ôl Gunter, yn dangos datblygiad aruthrol Cymru ers i Speed olynu John Toshack fel rheolwr ym mis Rhagfyr y llynedd.
"Fe gawson ni ychydig o ganlyniadau siomedig yn y dechrau pan gymrodd y bos yr awennau i ddechrau," medd Gunter wrth gyfeirio at y ffaith i Gymru golli pedair o'u pum gêm gyntaf gyda Speed wrth y llyw.
"Ond mae'r newid ers hynny wedi bod yn dda iawn, ac mae'n ymddangos fel tîm hollol wahanol i'r un ddechreuodd y grŵp.
"Rydym yn edrych ymlaen i gwrdd â'n gilydd ac mae ymdeimlad da o gwmpas y garfan ar hyn o bryd. Rhaid cadw hynny i fynd.
"Yn amlwg fe fyddai'n braf cael cystadlu a chyrraedd rowndiau terfynol, ond mae'r gemau yma wedi rhoi cyfle i ni chwarae yn ein dull ni."
Yn stadiwm Vasil Levski yn Sofia nos Fawrth, fe fydd Cymru'n wynebu tîm sydd bellach ar waelod y grŵp ac a ddiswyddodd eu hyfforddwr Lothar Mattheus ym mis Medi.
Rheolwr dros dros, Mihail Madanski, fydd yng ngofal Bwlgaria nos Fawrth - ei gêm gyntaf wrth y llyw.
Carfan Cymru:
Golwyr: Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Boaz Myhill (West Bromwich Albion - ar fenthyg gyda Birmingham City)
Amddiffynwyr: Darcy Blake (Caerdydd), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Neil Taylor ac Ashley Williams (Abertawe), Lewin Nyatanga (Bristol City)
Canol cae: Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Andrew Crofts (Norwich City), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace)
Blaenwyr: Craig Bellamy (Lerpwl), Hal Robson-Kanu a Simon Church (Reading), Steve Morison (Norwich City), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers)
Rhestr wrth gefn: Lewis Price (Crystal Palace), Neal Eardley (Blackpool), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Abertawe), Andy Dorman (Crystal Palace), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United)
Straeon perthnasol
- 7 Hydref 2011
- 3 Hydref 2011
- 27 Medi 2011
- 7 Hydref 2011
- 2 Medi 2011