Organau: Talu am angladdau?
- Cyhoeddwyd

Mae sefydliad amlwg ym maes moeseg iechyd wedi argymell y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dalu costau angladd cleifion sy'n rhoi eu horganau.
Yn ôl adroddiad gan y Nuffield Council of Bioethics, gallai hynny arwain at fwy o bobl yn rhoi organau.
Doedd yr adroddiad ddim yr argymell polisi o ganiatâd tybiedig, fel sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.
Dywed yr adroddiad bod ansicrwydd a fyddai polisi fel hyn yn gwella'r sefyllfa, ac yn dweud y dylid cynnal astudiaethau pellach cyn i weddill y DU ddilyn Cymru.
Dim tystiolaeth
Fe ddywed awduron yr adroddiad na ddylid talu pobl yn uniongyrchol am roi eu horganau, ond y gallai "cael gwared â'r cyfrifoldeb ariannol o dalu am angladd annog mwy o bobl i gofrestru i roi eu horganau."
Ychwanegodd un ohonynt - Keith Rigg sy'n llawfeddyg trawsblannu yn Nottingham - nad oedd tystiolaeth pa mor effeithiol fyddai cynllun o'r fath ac y dylid cynnal cynlluniau peilot.
Wrth drafod cynllun o ganiatâd tybiedig, dywedodd Mr Rigg:
"Mae cynllun tebyg i'w gael yn Sbaen a Gwlad Belg, ond mae ansicrwydd a fydd hyn yn arwain at fwy o organau yn cael eu rhoi.
"Dylid cael sylfaen o dystiolaeth gref cyn ystyried newidiadau fel hyn yng ngweddill y DU."
'Gweithred allgarol'
Dywedodd cymdeithas feddygol y BMA fod y syniad o dalu costau angladd yn un diddorol, ond maen nhw'n dal i gredu mai un o'r ffyrdd gorau o gynyddu rhoi organau yw symud tuag at system o ganiatâd tybiedig gyda dulliau o warchod y rhai sydd am beidio gwneud hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd y llywodraeth:
"Mae cofrestru i roi organau yn weithred allgarol sy'n gallu achub bywydau eraill.
"Mae'n benderfyniad annibynnol, personol, a ddylai fod yn rhydd o unrhyw ystyriaethau ariannol.
"Fe fyddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad gyda Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu'r GIG a'r Awdurdod Meinwe Dynol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y rhoddion organau a thrawsblaniadau yng Nghymru.
"Rydym yn ystyried sawl ffordd o gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w trawsblannu, gyn gynnwys system caniatâd tybiedig.
"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar Bapur Gwyn, fydd yn cael ei drafod yn helaeth yn y dyfodol agos. Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw safbwyntiau."
Straeon perthnasol
- 4 Hydref 2011
- 27 Medi 2011
- 21 Medi 2011