Brwydr rheilffordd i arbed swyddi yn Y Friog
- Cyhoeddwyd

Mae rheilffordd stêm yng Ngwynedd wedi dechrau "cronfa argyfwng" mewn ymgais i arbed swyddi.
Mae rheolwyr Rheilffordd Y Friog ger Y Bermo yn dweud bod y cwmni yn gwneud colled o £40,000 y flwyddyn.
Tan yn ddiweddar bu'r ddyled yn cael ei thalu gan ddilynwr brwd o'r rheilffordd, Yr Athro Tony Atkinson, ond fe fu farw rhai misoedd yn ôl.
Y gobaith yw y bydd cefnogwyr eraill yn helpu i gadw'r rheilffordd ar agor.
Rhan amser
Mae'r rheolwyr yn gobeithio na fydd gweithwyr yn colli eu swyddi ond mae un aelod o'r staff eisoes wedi gadael y cwmni.
Dywedodd Rheolwr y Rheilffordd, Chris Price: "Rydyn ni'n fusnes twristiaeth ddim ar elw a bu'r Athro Tony Atkinson yn tanysgrifennu ein dyledion tan yn ddiweddar."
"Ond bu farw rai misoedd yn ôl, ac mae'r ffaeleddau o redeg busnes sy'n gwneud colled wedi dod i'r amlwg yn gyflym iawn."
Mae'r rheilffordd eisoes wedi dileu digwyddiad ar nos Galan Gaeaf a dau ddigwyddiad yn ystod gŵyl y Nadolig.
Mae'r cwmni yn cyflogi dau o bobl mewn swyddi llawn amser a dau o bobl rhan amser drwy gydol y flwyddyn.
Yn ystod yr haf mae chwe aelod arall o staff yn gweithio rhan amser.
Newid strwythur
Mae'r rheilffordd, sydd ddwy filltir o hyd (3.2 cilometr), hefyd yn ddibynnol ar wirfoddolwyr.
"Dydyn ni ddim am i unrhyw un gael eu diswyddo yn y tymor hir ond ni allwn addo dim byd ar hyn o bryd," meddai Mr Price.
"Rydyn ni'n ceisio newid strwythur y cwmni i'w wneud yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
"Gall y cwmni wneud elw o yfory ymlaen pe baen ni'n lleihau'r nifer o ddyddiau rydyn ni ar agor, cyflogi llai o staff ac ystyried cau ein caffi yn Y Bermo.
"Ond byddai hynny yn cael effaith andwyol ar yr economi leol gan effeithio ar weithredwyr y fferi."
Ychwanegodd Mr Price fod dau gyfrannydd wedi camu i'r adwy i gadw'r rheilffordd ar agor am flwyddyn.
"Er hynny dydyn ni ddim yn dathlu eto," meddai.
Straeon perthnasol
- 28 Mai 2011
- 12 Mai 2011
- 22 Gorffennaf 2009