Dyn ar goll: Apêl am wybodaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth am ddyn 22 oed a ddiflannodd o'i gartref yn Nhrefforest ym mis Medi.
Mae Ahmed Al-Lami yn cael ei ddisgrifio fel dyn 6'0" o daldra gyda barf llawn. Roedd yn gwisgo siaced guddliw, het ddu a menig coch a du.
Y gred yw ei fod e'n cario pabell gyda'r bwriad o fynd i wersylla ac mae'r heddlu yn credu ei fod yn ardal Y Barri.
Dyw ei deulu ddim wedi clywed dim ganddo ers Medi 28 ac maen nhw'n bryderus amdano.
Myfyriwr
Gadawodd ei gartref yn John Street, Trefforest - sy'n agos i Brifysgol Morgannwg lle'r oedd e'n fyfyriwr.
Mae Heddlu De Cymru yn galw ar Mr Al-Lami i gysylltu â'i deulu neu unrhyw orsaf heddlu.
Gofynnir i unrhyw un a all fod wedi gweld Mr Al-Lami yn ddiweddar, neu'n gwybod lle y mae e, i gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.