Pryder am ddyfodol ysgolion ffydd yn Nolgellau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi datgan eu pryder na fydd yr un ysgol ffydd yn bodoli yn ardal Dolgellau yn y dyfodol.
Bydd ailstrwythuro addysg yn ardal Dolgellau yn cael ei drafod gan Fwrdd Cyngor Gwynedd ddydd Mawrth.
Gallai dwy ysgol gynradd Yr Eglwys yng Nghymru yn ardal Dolgellau gael eu heffeithio gan gynllun i gau rhai ysgolion a'u disodli gan ysgolion mwy o faint.
Ond dywed adroddiad fod yr Eglwys yng Nghymru "wedi datgan eu dyhead i sicrhau darpariaeth addysg gan yr Eglwys yn yr ardal".
Safleoedd gwahanol
Ychwanegodd yr adroddiad: "Mae trafodaethau â chynrychiolwyr o Esgobaeth Bangor o'r Eglwys yng Nghymru wedi canfod fod 'na bryderon pe na bai darpariaeth addysg gan yr Eglwys yn yr ardal.
"Dylai aelodau o'r Bwrdd fod yn ymwybodol bod yr Eglwys yn ymgynghorwyr craidd o ran y broses hon."
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn gyfrifol am ddwy ysgol gynradd yn yr ardal, sef Ysgol Gynradd Dolgellau ac Ysgol Machreth.
Mae Cyngor Gwynedd yn ailstrwythuro eu darpariaeth addysg ar draws y sir.
Mae'r cynlluniau o ran ardal Dolgellau yn cynnwys creu Ysgol Ardal ar safleoedd gwahanol gan gynnwys Ysgol Dinas Mawddwy a naill ai Ysgol Brithdir neu Ysgol Ieuan Gwynedd, Rhydymain.
Byddai Ysgol Llanfachreth yn cau o dan y cynllun hwn.
Straeon perthnasol
- 23 Mehefin 2011