Adar meirw: RSPB yn cynnig gwobr

  • Cyhoeddwyd
Corff bodaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y boda ei ladd ym mis Gorffennaf

Mae Heddlu Gwent, Llywodraeth Cymru a RSPB Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i foda a dwy gigfran gael eu lladd gan wenwyn ger Blaenafon yn Sir Fynwy ym mis Gorffennaf.

Mae'r RSPB yn cynnig gwobr o £1,000 am wybodaeth fydd yn arwain at rywun yn ei gael yn euog o'r drosedd.

Casglodd swyddogion Llywodraeth Cymru'r adar fel rhan o'u Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (CYDdBG) sy'n cynnal ymchwiliadau i farwolaeth bywyd gwyllt lle mae tystiolaeth fod plaladdwyr wedi eu defnyddio.

Wedi profion gwenwyneg canfu bod yr adar wedi eu gwenwyno gan Carbofuran, plaladdwr sydd wedi ei wahardd.

Carbofuran

Yn ogystal, darganfuwyd dwy golomen marw yn yr un lleoliad oedd hefyd wedi eu gwenwyno gan blaladdwr.

Y gred yw bod y colomennod marw wedi eu gosod i ddenu adar eraill mewn ymgais i wenwyno'r rheiny.

Canfu dau hebog tramor marw oedd wedi eu gwenwyno gan Carbofuran ar yr un safle ym mis Gorffennaf 2010.

Dywedodd Cwnstabl Robert Maddocks, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt Heddlu Gwent: "Mae ein hymchwiliadau yn parhau i geisio canfod pwy sy'n gyfrifol am wenwyno'r adar yn yr achosion hyn.

"Mae'n anghyfreithlon i ladd neu aflonyddu nythod adar ysglyfaethus fel y boda a'r hebog tramor."

Dywedodd Swyddog Ymchwiliadau'r RSPB, Guy Sharrock: " Mae hyn yn achos erchyll arall o wenwyno bywyd gwyllt.

"Mae yna broblem barhaol o bobl yn lladd yr hebog tramor yn ne Cymru ac rydyn ni'n credu mai'r rhywogaeth hon oedd yn cael ei dargedi yn yr achos hwn.

"Ond mae rhywogaethau eraill a phobl mewn peryg pe baen nhw'n dod mewn cysylltiad â'r gwenwyn peryglus hwn.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y wobr yn annog rhywun i gynnig gwybodaeth am y drosedd hon."

Mae adar ysglyfaethus yn cael eu gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Gall rhywun sydd yn ei gael yn euog o ladd un o'r adar hyn neu ddefnyddio plaladdwyr yn anghyfreithlon wynebu dirwy o £5,000 ac/neu chwe mis o garchar.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r RSPB ar 0845 466 3636

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol