Aberdâr ar y brig gyda polo dŵr
- Cyhoeddwyd

Diolch i wersi am ddim, mae dwy ferch ysgol o Gymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o sgwad polo dŵr Olympaidd Prydain.
Nid oedd Shannon Lewis-Griffiths na Keira Williams erioed wedi profi'r gêm cyn iddyn nhw gymryd rhan mewn cynllun hybu nofio Cyngor Rhondda Cynon Taf ddwy flynedd yn ôl.
Ond ar ôl oriau o hyfforddi ym mhwll nofio Aberdâr, mae'r ddwy, sy'n 13 oed, yn rhan o academi tîm polo dŵr Prydain gyda'r nod o gael eu dewis i'r tîm uwchradd erbyn y Gemau Olympaidd yn 2020.
"Mae polo dŵr yn llewyrchus yn Aberdâr," meddai Jean Davies, swyddog datblygu nofio'r cyngor.
"Mae hyn oherwydd ein bod efo'r offer sydd ei angen i chwarae'r gêm, o polo-mini i'r lefel uchaf.
"Roedd o'n bosib datblygu'r cyfle i gynnig polo-mini oherwydd y fenter nofio am ddim tair blynedd yn ôl.
"Mae'r plant yna wedi tyfu fyny efo'r gêm, ac rydym yn ffodus iawn bod dwy ohonyn nhw wedi cael eu dewis fel rhan o'r sgwad."
Yn ôl hyfforddwr y merched, Darryl Ward, rhaid diolch i Nofio Cymru am gyflogi'r hyfforddwr polo ddŵr Hwngaraidd, Csava Rull, a roddodd hwb fawr i'r gamp yma.
Mae o bellach yn aelod o ddim hyfforddi'r tîm Prydeinig.
Gwaith caled
"Rhoddodd gychwyn da i'r gêm yma," meddai Mr Ward o Glwb Polo Dŵr Cwm Draig.
"Erbyn hyn mae'r merched yn gwneud naw awr o hyfforddiant polo dŵr a pum awr o nofio yn wythnosol.
"Yna, fe fyddan nhw'n ymuno â'r academi bob mis ac yn hyfforddi o 6am hyd 10pm."
Roedd y Cynghorydd Robert Bevan, aelod cabinet Rhondda Cynon Taf ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, yn falch iawn bod yr ymgyrch i hybu nofio wedi bod yn llwyddiannus.
"Mae eu llwyddiant yn destament i beth all cael ei gyflawni a'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig," meddai.
"Ni fyddai'r ddwy wedi hyd yn oed cael blas ar bolo ddŵr yn y lle cyntaf oni bai am y cyfleusterau hamdden am ddim sy'n cael ei gynnig gan y cyngor.
"Rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw ac yn falch iawn eu bod yn cynrychioli Rondda Cynon Taf.
"Dwi'n gobeithio eu bod yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan."