25,000 o docynnau wedi eu harchebu
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyfan o'r 25,000 o docynnau i wylio'r gêm rhwng Cymru a Ffrainc ar sgrîn fawr yn Stadiwm y Mileniwm wedi eu harchebu.
Nawr mae'r trefnwyr am ddarparu 20,000 yn fwy o leoedd ar gyfer yr achlysur ddydd Sadwrn.
Bydd y Stadiwm yn agor am 7.30am ar gyfer y gêm yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Yn wreiddiol roedd y trefnwyr wedi cyfyngu'r nifer i 25,000 er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu gweld y ddwy sgrîn.
Mae'r tocynnau ar gyfer yr achlysur yn rhad ac am ddim.
Erbyn hyn does dim modd cael tocynnau ar wefan Ticketmaster.
Mae modd archebu tocynnau yn y Stadiwm, Giât 3, tan 7pm nos Fawrth a rhwng 9am a 7pm ddydd Mercher.
"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel, " meddai Gerry Toms, rheolwr y Stadiwm.
"Byddwn yn agor y drysau am 7.30am ddydd Sadwrn a bydd yna 20,000 o docynnau ychwanegol ar gael.
Dywed y trefnwyr y dylai cefnogwyr wisgo coch ar ddiwrnod y gêm.
Bydd y gêm ddydd Sadwrn yn Auckland yn dechrau am 9:00am amser Cymru.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol ers 24 o flynyddoedd.
Pe bai Cymru yn fuddugol fe fyddan nhw'n cyfarfod ag Awstralia neu Seland Newydd yn y rownd derfynol.
Fe wnaeth tîm Cymru sicrhau eu lle yn yr wyth olaf ar ôl buddugoliaeth o 22-10 yn erbyn Iwerddon yn Wellington dydd Sadwrn diwethaf.
Bydd Cymru yn cyhoeddi eu tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Iau.
Mae Ffrainc eisoes wedi enwi eu tîm a does 'na ddim newid i'r 15 gychwynnodd y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.