Enw newydd i'r Crusaders - Crusaders Gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr tîm rygbi'r gynghrair Y Crusaders wedi penderfynu mai enw newydd y clwb fydd "Crusaders Gogledd Cymru".
Mae'r newyddion yn cyd-daro â datganiad gan y corff sy'n rheoli Rygbi'r Gynghrair y bydd y clwb yn rhan o Adran Gyntaf Cynghrair y Cooperative yn 2012.
Mae hyn yn golygu bydd y clwb yn chwarae ar lefel is nag yr oedden nhw eleni yn y Superleague.
Bydd yn golygu hefyd y bydd Crusaders Gogledd Cymru yn wynebu Scorpions De Cymru.
Aflwyddiannus
Hwn fyddai'r tro cyntaf erioed i ddau dîm proffesiynol rygbi 13 wynebu ei gilydd.
Cymrodd bron i 700 o gefnogwyr ran yn y bleidlais ar-lein i ddewis yr enw newydd i'r tîm sy'n chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam.
Ymysg yr enwau aflwyddiannus oedd Crusaders Glyndŵr a Crusaders Cambria.
Roedd y cefnogwyr eisoes wedi cefnogi'n unfrydol cynlluniau i fod yn rhan o Adran Gyntaf Cynghrair y Cooperative y flwyddyn nesaf.
Mae Clwb Cefnogwyr y Crusaders a Save the Cru, yn creu clwb newydd ar gyfer tymor 2012.
Daeth y penderfyniad i barhau i chwarae mewn cyfarfod agored o tua 120 o gefnogwyr ar Fedi 29.
Y tebygrwydd yw y bydd y clwb yn parhau i chwarae ar y Cae Ras gan eu bod yn hyderus bod y cytundeb gyda Phrifysgol Glyndŵr - perchnogion y cae - yn addas ac yn ddilys.
Straeon perthnasol
- 26 Gorffennaf 2011
- 3 Awst 2011