Datblygu Arsyllfa Rithwir Dyfi
- Cyhoeddwyd

Mae Arsyllfa Rithwir Dyfi (ARD) wedi lansio gwefan syniadau newydd i wahodd trigolion a phobl eraill sy'n ymddiddori, i helpu datrys rhai problemau amgylcheddol yn ardal Dyfi a ledled Prydain.
Bydd ARD yn cynnal tri gweithdy cymunedol yng Nghanolfan Owain Glyndŵr ym Machynlleth ar ddydd Iau, 13 Hydref, fel bod y gymuned ehangach yn gallu bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r 'app' hwn ar gyfer y we.
Lansiwyd ARD yn ddiweddar gan ymchwilwyr yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth.
Dewiswyd ARD fel enghraifft leol dda gan yr Arsyllfa Rithwir Amgylcheddol, menter peilot ledled Prydain wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
Newid hinsawdd
Felly mae'n bosib y bydd modd i drigolion lleol, cynghorau, gwyddonwyr a sefydliadau amgylcheddol ledled ardal Dyfi ddefnyddio'r arsyllfa i astudio materion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Dywedodd yr Athro Mark Macklin, arbenigwr blaenllaw ar afonydd o Brifysgol Aberystwyth: "Dalgylch Dyfi yw un o'r dalgylchoedd afon sydd wedi'i astudio orau yng Nghymru, os nad Prydain.
"Nawr bydd modd i'r gymuned ddefnyddio a dadansoddi data i ddeall ystod eang o faterion - o newid hinsawdd a bioamrywiaeth i ansawdd dŵr."
Dywedodd Dr Paul Brewer, sy'n aelod o'r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth sy'n sefydlu Arsyllfa Rithwir Dyfi: "Mae pethau'n datblygu'n gyflym gyda'r ochr dechnegol.
"Mae'r tîm yn profi bod y math hwn o adnodd yn dechnegol bosibl ac mae'n cynnig arf addawol ar gyfer rheoli'r amgylchedd."
Ychwanegodd Dr Brewer "Ac eto, mae'n amlwg ei fod yn bwysig, wrth adeiladu adnodd technolegol ar gyfer y cyhoedd, i gynnwys y gymuned o'r cychwyn cyntaf.
"Rydym am gasglu syniadau o blith cymuned Dyfi a ledled Cymru i sicrhau llwyddiant yr arsyllfa."
Cynhelir y gweithdai yng Nghanolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth rhwng 9.30am a hanner dydd i sefydliadau amgylcheddol a chymunedol.
Mae gwahoddiad agored i aelodau o'r gymuned fod yn rhan o'r ail weithdy a gynhelir rhwng 12.45pm a 3.15pm.