Ysgol Gymraeg i Aberteifi?
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 bobl wedi arwyddo deiseb yn erbyn troi Ysgol Gynradd Gymunedol Aberteifi yn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Ar hyn o bryd mae rhieni yn medru dewis a yw eu plant yn cael addysg yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ar ôl y dosbarth derbyn.
Mewn llythyr gafodd ei anfon i rieni bythefnos yn ôl, fe amlinellwyd cynlluniau i gael gwared ar y ffrwd Saesneg yn y dyfodol a throi ysgol Aberteifi yn ysgol gyfrwng Cymraeg.
Un sydd yn gwrthwynebu'r newidiadau yw Sharon Griffiths.
"Yn 2008 roedd Cyngor Ceredigion wedi darparu dogfen strategaeth iaith .... ond chawsom ni fel rhieni erioed gopi o'r ddogfen hon a 'sa ni erioed wedi bod yn rhan o unrhyw ymgynghoriad arno chwaith.
"Felly ar ôl ymchwilio i'r sefyllfa nawr, rwyf wedi sylweddoli fod y ddogfen yma'n allweddol i'r newid hwn a bod 2008 yn ddechrau'r daith i newid hi'n ysgol Gymraeg.
"Rwy'n credu, petae nhw wedi ymgynghori â ni neu hyd yn oed roi copi o'r ddogfen i ni bryd hynny, y bydde ni wedi cael yr wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad fel rhieni ynglŷn â dyfodol addysg ein plant
"Ni'n teimlo fel rhieni eu bod nhw wedi dwyn y dewis oddi wrthym ni."
Yn ôl y prifathro, Robert Jenkins, dim ond dau o blant allan o 30 y mflwyddyn 1 sydd wedi dewis cael addysg ddwyieithog.
Mae'r gweddill yn y ffrwd Gymraeg.
Cydnybyddiaeth
Rhiant sy'n hapus gyda'r newid sy'n cael ei gynnig yw Mark Ellis Jones.
"Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu hela i'r ffrwd Gymraeg.
"Fel wi'n deall, dau neu dri yn unig o blant sy 'di cael eu hela i'r ffrwd Saesneg eleni ym mlwyddyn un.
"Dy'n nhw ddim yn newidiadau mewn gwirionedd, cydnabyddiaeth yw hi o'r hyn sy'n digwydd yn barod.
"Fel rhiant, wi'n teimlo trueni mawr achos eu dadl nhw fel wi'n deall hi yw taw dewis, ma' nhw ishe cadw dewis. Wel ma' nhw'n 'neud y dewis dros eu plant eu hunain, wi'n credu bod hwnna'n annheg i'r plant yn y dyfodol.
"Bydden nhw'n gofyn i'r rhieni, 'Pam na ches i ddim cyfle i siarad Cymraeg, bod yn rhan o'r gymuned a gallu cystadlu am swyddi yn y dyfodol?'
" Felly wi'm yn credu mai 'dewis' yw'r peth gorau iddyn nhw seilio eu dadl arno fe."
Ymgynghoriad
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn yr ysgol am 6pm nos Fercher er mwyn i'r rhieni allu cwestiynu'r prifathro, Robert Jenkins, a'r llywodraethwyr ynglŷn â'u cynlluniau.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, bydd cyfnod o ymgynghori anffurfiol yn dilyn y cyfarfod.
Ychwanegodd y cyngor na fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu cyn Medi 2019
Ysgol Gynradd Cymunedol Aberteifi yw'r ysgol olaf yn ardal de Ceredigion sy'n parhau i gynnig llif ddwyieithog ar lefel gynradd.
Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 45% o bobl Aberteifi yn medru darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg