Cynllun ysgoloriaeth Prifysgol Cymru ar ben

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd taliadau gan Lywodraeth Cymru i'r cynllun eu hatal ym mis Ionawr

Bydd ysgoloriaeth dechnoleg, a gynigwyd gan Brifysgol Cymru, yn dod i ben ar ôl i Lywodraeth Cymru dynnu grant Ewropeaidd yn ôl.

Nod Cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS) oedd denu graddedigion blaenllaw i weithio ar brosiectau ymchwil o fewn cwmnïau Cymreig.

Ond mae adolygiad wedi canfod "methiannau rheoli a llywodraethu".

Bydd cytundebau presennol gyda graddedigion a busnesau yn parhau.

Mae'r brifysgol wedi cael wythnos anodd yn dilyn ymchwiliad BBC Cymru i honiadau o dwyll yn ymwneud â fisas myfyrwyr mewn colegau oedd yn cynnig cyrsiau Prifysgol Cymru.

Ddydd Llun fe alwodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews am ymddiswyddiad cadeirydd cyngor y brifysgol, D Hugh Thomas.

Atal taliadau

Mae'r cynllun ysgoloriaethau'n canolbwyntio ar ddiwydiannau technoleg yng ngorllewin Cymru a'r cymoedd.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru atal taliadau i'r cynllun ym mis Ionawr.

Nawr mae'r Gweinidog Mentergarwch Edwina Hart wedi dweud mewn llythyr at Aelodau Cynulliad fod adolygiad wedi canfod nifer o fethiannau, oedd yn codi amheuon ynglŷn â pha mor gymwys oedd cyfrannu arian Ewropeaidd at y cynllun.

Dywedodd Ms Hart fod Swyddfa Cyllid Ewrop Cymru, sy'n gweinyddu grantiau Ewropeaidd yng Nghymru, wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r brifysgol ac y byddent yn helpu i "reoli'r broses o gau'r prosiect".

Mae pob taliad Ewropeaidd i'r cynllun wedi'u hatal, ac mae 'na gais i'r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, gomisiynu asesiad annibynnol i'r modd y mae'r cynllun yn cael ei reoli ar gyfer graddedigion presennol.

Cytundebau presennol

Mae gan y cynllun gyllid cyffredinol o £11 miliwn, gyda £5 miliwn yn dod gan Ewrop a £6 miliwn gan y brifysgol a busnesau sy'n rhan o'r cynllun.

Cadarnhaodd y gweinidog mai ond £0.4m o arian Ewropeaidd oedd wedi'i dalu i'r prosiect hyd yma.

Ychwanegodd y byddai cytundebau presennol rhwng graddedigion a busnesau yn parhau, ond y byddai'r cyllid o Ewrop yn cael ei atal hyd nes bod pob mater wedi'i ddatrys.

Yr wythnos ddiwetha' dywedodd Prifysgol Cymru eu bod yn "hollol hyderus" y byddai taliadau'n ail ddechrau yn fuan. Fe wnaethon nhw amddiffyn perfformiad y cynllun yn denu buddsoddiad, gan ddweud ei fod wedi cynhyrchu £12.5 miliwn dim ond yn y ddwy flynedd gynta'.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol