£6,000 am fwrdd i Lywydd y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Rosemary ButlerFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae adnewyddu swyddfa Rosemary Butler wedi costio £23,000

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos for Llywydd y Cynulliad wedi gwario £6,000 o arian cyhoeddus ar fwrdd newydd yn ei swyddfa.

Cafodd cyfanswm o £23,000 ei wario ar ail drefnu swyddfeydd Rosemary Butler a'i dirprwy David Melding.

Mae aelod cynulliad Plaid Cymru Leanne Wood wedi gofyn i'r Llywydd gyfiawnhau'r gwariant.

Dywedodd Ms Wood: "Yn amlwg mae angen rhaglenni i adnewyddu swyddfeydd o bryd i'w gilydd ond mae'n fater i'r Llywydd gyfiawnhau'r gwariant yma.

"Rydyn ni yng nghanol argyfwng economaidd, mae'r coffrau cyhoeddus yn dioddef ac mae'r mwyafrif o bobl dal yn flin iawn am sgandal treuliau aelodau seneddol.

"Felly pan mae gwleidyddion yn gwario arian cyhoeddus mae'n rhaid iddyn nhw fod yn dryloyw ynglŷn â sut mae'n cael ei wario."

Preifatrwydd

Mae swyddfa Rosemary Butler wedi ei leoli ar bedwerydd llawr Tŷ Hywel ac mae gwaith ar y llawr wedi costio £43,000.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn dweud fod y gwaith yn angenrheidiol i sicrhau preifatrwydd i aelodau cynulliad.

Dywedodd llefarydd ar ran y comisiwn: "Mae ail drefnu swyddfa'r llywydd yn golygu y bydd 'na arbediad o £380,000 dros y pum mlynedd nesaf o ganlyniad i'r ffaith nad ydi hi yn cyflogi ymgynghorydd arbennig.

"Cafodd y gwaith ei wneud dros wyliau'r haf er mwyn diwallu anghenion y pedwerydd cynulliad.

"Mae cyn swyddfeydd y Llywydd a'r dirprwy wedi cael eu haddasu fel y gall y tîm sy'n rhoi cymorth i aelodau ddelio gyda'r aelodau mewn preifatrwydd".

Daeth y gwariant ar swyddfa'r Llywydd allan o'r gyllideb eleni. Ond mae'r gyllideb yn codi 6.4% flwyddyn nesaf.

Yn ôl un ffynhonnell yn y Llywodraeth mae hynny yn "bizzare."

'Cynnydd mewn costau'

Dywedodd y comisiwn bod eu cyllideb yn 0.3% o grant bloc Cymru o'r Trysorlys, sy'n talu am wasanaethau cyhoeddus wedi eu datganoli.

Ychwanegodd eu bod yn wynebu "cynnydd mewn costau cytundebol nad oes modd eu hosgoi" o £2.3m, gan gynnwys cyflogau staff, chwyddiant o ran cyflenwadau a gwasanaethau a chynnydd mewn rhent ar gyfer Tŷ Hywel.

Mae'r rhent ar gyfer Tŷ Hywel - lle mae swyddfeydd yr aelodau, ystafelloedd cyfarfod a hen siambr y cynulliad - yn codi £500,000 i £2.3m yn 2012.