Galw am ailystyried 'treth' ar gychod
- Cyhoeddwyd

Mae pysgotwyr a pherchnogion cychod yn galw am ailystyried cynllun i godi am fynediad i lithrfa ar draeth yn Sir Benfro.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol yn y sir yn bwriadu codi ar bobl i fynd â'u cerbydau ar draeth Freshwater East.
Cafodd y cynllun ei ddisgrifio fel "treth ar hamdden a physgota" gan rai perchnogion sy'n lansio'u cychod o'r traeth.
Dywedodd yr awdurdod fod angen y taliad o £6 y dydd er mwyn talu am warden i gynorthwyo gyda rheoli'r llithrfa a gwella diogelwch i bawb sy'n defnyddio'r traeth.
Ychwanegodd y byddai taliadau misol a blynyddol yn cwtogi'r gost i ddefnyddwyr cyson.
Mae tua 70 o gychod yn defnyddio'r llithrfa yn ddyddiol yng nghanol yr haf.
Mae rhwystr nawr wedi ei osod yno gyda'r bwriad o'i gloi o fis Ionawr a chodi am fynediad i'r safle.
Mae Cymdeithas Pysgotwyr a Badau Freshwater East yn gwrthwynebu hynny.
Dywedodd eu llefarydd, Huw Baker, eu bod wedi defnyddio'r llithrfa yn rhad ac am ddim ers iddi gael ei chodi dros 20 mlynedd yn ôl.
"Yr haf diwethaf fe wnaethon nhw godi'r tâl am barcio yno i £5 y dydd," meddai.
"Nawr maen nhw wedi gosod y giât yno heb ymgynghori gydag unrhyw un i fanylder.
"Ro'n i'n meddwl mai pwrpas Parc Cenedlaethol oedd denu twristiaid i'r ardal a pheidio codi ofn ar bobl, ac fe ddylai fod rhywfaint o ystyriaeth i bobl leol sy'n defnyddio'r safle yn ogystal.
Mesur diogelwch
"Mae'n dreth ar bobl sy'n mwynhau'r traeth - pobl sydd wedi defnyddio'r llithrfa heb drafferth yn rhad ac am ddim ers iddi gael ei chodi."
Ychwanegodd ei fod yn poeni mai dechrau yn unig oedd hyn ac y byddai'r gost yn cynyddu'n fuan.
Ond mynnodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod cefnogaeth i'r newid.
Dywedodd llefarydd: "Gall Freshwater East fod yn brysur iawn ac mae'r llithrfa yn hir a chul.
"Ar gais y gymuned leol fe wnaethon ni gyflwyno warden bum mlynedd yn ôl i reoli'r defnydd o'r llithrfa yn ystod tymor yr haf.
"Ers hynny rydym wedi cyflwyno sustem o fwiau i greu ardaloedd penodol yn y bae fel mesur diogelwch - hefyd ar gais pobl leol - ynghyd â giât y mae modd ei chloi ar y llithrfa a mwy o wybodaeth ar y safle."
Ychwanegodd na fyddai'r awdurdod yn gwneud elw o'r taliad, ond fod ei angen er mwyn talu am wella diogelwch.
"Does yr un llithrfa arall yn ne'r sir lle nad oes taliad i'w defnyddio, ac fe fydd ein costau ni yn cymharu gyda'r rheini," ychwanegodd y llefarydd.
"Rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol gan y gymuned i'n dull o weithredu.
"Tua diwedd y flwyddyn byddwn yn adolygu'r trefniadau ac ymgynghori gyda phobl leol fel yr ydym wedi gwneud bob tymor dros y deng mlynedd diwethaf."