Fleetwood 1-4 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd Justin Edinburgh ddechrau gwael i'w gyfnod fel rheolwr Casnewydd dros y penwythnos wrth golli yn erbyn Southport ar Barc Sbytty.
Fe gafodd ddechrau gwaeth i'r gêm yn erbyn Fleetwood nos Fawrth gyda Gareth Seddon yn rhoi'r tîm oedd yn drydydd yn y tabl ar ddechrau'r noson ar y blaen yn y funud gyntaf.
Ond mae Edinburgh eisoes wedi dechrau cael effaith ar ei dîm yn amlwg ac o fewn chwarter awr fe ddaeth Casnewydd yn gyfartal.
Roedd hi'n gôl ffodus efallai gyda golwr Fleetwood yn methu cadw'i afael ar ergyd wan Buchanan a Sam Foley wrth law i rwydo.
Roedd gwell i ddod i'r ymwelwyr. Fe roddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn i Gasnewydd wedi 23 munud, a Danny Rose sgoriodd o'r smotyn.
Wedi 29 munud, ergyd gan Rose achosodd broblemau i amddiffyn Fleetwood a tro Foley oedd hi i sgorio gan roi Casnewydd 3-1 ar y blaen.
Wedi bron awr o chwarae, fe gafodd y triphwynt eu sicrhau oherwydd dau ddigwyddiad.
I ddechrau fe sgoriodd Foley unwaith eto i'w gwneud hi'n 4-1, gan sicrhau hat-tric yn y broses.
Yna fe gafodd sgoriwr Fleetwood, Gareth Seddon, ail gerdyn melyn a chael ei yrru o'r maes.